Jeremeia 7:1-34
Jeremeia 7:1-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia: “Dos i sefyll wrth y giât i deml yr ARGLWYDD, a chyhoeddi’r neges yma: ‘Bobl Jwda, sy’n mynd i mewn drwy’r giatiau yma i addoli’r ARGLWYDD, gwrandwch! Mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud fod rhaid i chi ddechrau newid eich ffyrdd. Os gwnewch chi, cewch chi aros yn eich gwlad. Peidiwch credu’r twyll sy’n addo y byddwch chi’n saff wrth ddweud, “Teml yr ARGLWYDD ydy hon! Teml yr ARGLWYDD ydy hi! Teml yr ARGLWYDD!” “‘Rhaid i chi newid eich ffyrdd, dechrau trin pobl eraill yn deg, peidio cam-drin mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Peidio lladd pobl ddiniwed ac addoli eilun-dduwiau paganaidd. Dych chi ond yn gwneud drwg i chi’ch hunain! Os newidiwch chi eich ffyrdd, bydda i’n gadael i chi aros yn y wlad yma, sef y wlad rois i i’ch hynafiaid chi i’w chadw am byth bythoedd. “‘Ond dyma chi, yn credu’r celwydd fydd ddim help i chi yn y diwedd! Ydy’n iawn eich bod chi’n dwyn, llofruddio, godinebu, dweud celwydd ar lw, llosgi arogldarth i Baal, ac addoli eilun-dduwiau dych chi’n gwybod dim amdanyn nhw, ac wedyn yn dod i sefyll yn y deml yma – fy nheml i – a dweud, “Dŷn ni’n saff!”? Yna cario ymlaen i wneud yr holl bethau ffiaidd yna! Ydy’r deml yma – fy nheml i – wedi troi’n guddfan i ladron? Gwyliwch eich hunain! Dw i wedi gweld beth rydych chi’n wneud,’” meddai’r ARGLWYDD. “‘Ewch i Seilo, lle roeddwn i’n cael fy addoli o’r blaen. Ewch i weld beth wnes i yno, o achos yr holl bethau drwg wnaeth fy mhobl – pobl Israel. A nawr, dych chi’n gwneud yr un pethau!’” meddai’r ARGLWYDD. “‘Dw i wedi ceisio dweud wrthoch chi dro ar ôl tro, ond doeddech chi ddim am wrando. Rôn i’n galw arnoch chi, ond doeddech chi ddim am ateb. Felly, dw i’n mynd i ddelio gyda’r deml yma dych chi’n meddwl fydd yn eich cadw chi’n saff – ie, fy nheml i fy hun. Dw i’n mynd i ddelio gyda’r lle yma rois i i chi a’ch hynafiaid, yn union fel y gwnes i ddelio gyda Seilo! Dw i’n mynd i’ch gyrru chi o’m golwg i, yn union fel gwnes i yrru pobl Israel i ffwrdd.’” “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i’w helpu nhw, achos fydda i ddim yn gwrando arnat ti. Wyt ti ddim yn gweld beth maen nhw’n ei wneud drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem? Mae’r plant yn casglu coed tân, y tadau’n cynnau’r tân a’r gwragedd yn paratoi toes i wneud cacennau i’r dduwies maen nhw’n ei galw’n ‘Frenhines y Nefoedd’! Maen nhw’n tywallt offrwm o ddiod i dduwiau paganaidd dim ond i’m gwylltio i. Ond dim fi ydy’r un sy’n cael ei frifo!” meddai’r ARGLWYDD. “Brifo nhw’u hunain, a chywilyddio nhw’n hunain maen nhw yn y pen draw.” Felly dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i’n wyllt gandryll, a bydda i’n tywallt fy llid ar y lle yma. Bydd pobl ac anifeiliaid, coed a chnydau yn cael eu dinistrio. Bydd fel tân sydd ddim yn diffodd.” Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymerwch gig yr offrwm sydd i’w losgi’n llwyr a’i ychwanegu at yr aberthau eraill. Waeth i chi fwyta hwnnw hefyd! Pan ddes i â’ch hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft, nid rhoi rheolau iddyn nhw am offrymau i’w llosgi ac aberthau wnes i. Beth ddwedais i oedd, ‘Gwrandwch ar beth dw i’n ddweud. Bydda i’n Dduw i chi a byddwch chi’n bobl i mi. Dw i eisiau i chi fyw yn union fel dw i’n dweud wrthoch chi, a bydd pethau’n mynd yn dda i chi.’ “Ond doedden nhw ddim am wrando na chymryd unrhyw sylw ohono i. Dim ond dilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg, a mynd yn bellach oddi wrtho i yn lle dod yn nes. Ond o’r diwrnod y daeth eich hynafiaid allan o’r Aifft hyd heddiw dw i wedi dal ati i anfon fy ngweision, y proffwydi, atoch chi, dro ar ôl tro. Ond doedd neb yn gwrando arna i nac yn cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw’n hollol benstiff – hyd yn oed yn waeth na’u hynafiaid. “Dwed hyn i gyd wrthyn nhw, Jeremeia. Ond fyddan nhw ddim yn gwrando arnat ti. Byddi di’n galw arnyn nhw, ond paid disgwyl iddyn nhw ymateb. Dwed wrthyn nhw, ‘Mae’r wlad yma wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, a gwrthod cael ei dysgu. Mae gonestrwydd wedi diflannu! Dydy pobl ddim hyd yn oed yn honni ei ddilyn bellach!’ ‘Siafiwch eich gwallt, bobl Jerwsalem, a’i daflu i ffwrdd. Canwch gân angladdol ar ben y bryniau. Mae’r ARGLWYDD wedi’ch gwrthod, a throi ei gefn ar y genhedlaeth yma sydd wedi’i ddigio.’” “Dw i wedi gwrthod pobl Jwda am eu bod nhw wedi gwneud drwg,” meddai’r ARGLWYDD. “Maen nhw’n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi. Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd yn Toffet yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw’n aberthu eu plant bach yn y tân! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i! “Felly mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw’r lle yn Toffet neu ddyffryn Ben-hinnom. ‘Dyffryn Llofruddiaeth’ fydd enw’r lle. Fydd dim digon o le i gladdu pawb fydd yn cael eu lladd yno. Bydd cyrff dynol yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwyllt. Fydd yna neb ar ôl i’w dychryn nhw i ffwrdd. Dw i’n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio ar strydoedd Jerwsalem, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Bydd y wlad yn anialwch diffaith.”
Jeremeia 7:1-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD. “Saf ym mhorth tŷ'r ARGLWYDD, a chyhoedda yno y gair hwn: ‘Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda sy'n dod i'r pyrth hyn i addoli'r ARGLWYDD. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwnaf i chwi drigo yn y fan hon. Peidiwch ag ymddiried mewn geiriau celwyddog, a dweud, “Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD yw hon.” Os gwir wellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, os gwnewch farn yn gyson rhyngoch a'ch gilydd, a pheidio â gorthrymu'r dieithr, yr amddifad a'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y fan hon, na rhodio ar ôl duwiau eraill i'ch niwed eich hun, yna mi wnaf i chwi drigo yn y lle hwn, yn y wlad a roddais i'ch hynafiaid am byth. “ ‘Yr ydych yn ymddiried mewn geiriau celwyddog, heb fod ynddynt elw. Onid ydych yn lladrata, yn lladd, yn godinebu, yn tyngu llw celwyddog, yn arogldarthu i Baal, yn dilyn duwiau eraill nad ydych yn eu hadnabod? Eto yr ydych yn dod ac yn sefyll o'm blaen yn y tŷ hwn, y galwyd fy enw i arno, ac yn dweud, “Fe'n gwaredwyd er mwyn cyflawni'r holl ffieidd-dra hyn.” Ai lloches lladron yn eich golwg yw'r tŷ hwn, y gelwir fy enw i arno? Ond yr wyf finnau hefyd wedi gweld hyn, medd yr ARGLWYDD. “ ‘Ewch yn awr i'm cysegr yn Seilo, lle y gwneuthum i'm henw drigo ar y dechrau, ac edrychwch ar yr hyn a wneuthum yno oherwydd drygioni fy mhobl Israel. Yn awr, gan i chwi wneud yr holl bethau hyn, medd yr ARGLWYDD, mi lefaraf finnau wrthych; mi lefaraf yn daer, ond ni chlywch; mi alwaf arnoch, ond nid atebwch. Fel y gwneuthum i Seilo, felly y gwnaf i'r tŷ hwn y galwyd fy enw i arno ac yr ymddiriedwch chwithau ynddo; ie, y lle a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid. Taflaf chwi o'm gŵydd fel y teflais eich holl frodyr, holl ddisgynyddion Effraim.’ “Paid tithau â gweddïo dros y bobl hyn, na chodi na llais na gweddi drostynt, a phaid ag eiriol arnaf, oherwydd ni wrandawaf arnat. Oni weli'r hyn a wnânt yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem? Y mae'r plant yn casglu cynnud, y tadau yn cynnau tân, a'r gwragedd yn tylino toes i wneud teisennau i frenhines y nef; y maent yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, er mwyn fy nigio i. Ai myfi y maent yn ei ddigio?” medd yr ARGLWYDD. “Onid hwy eu hunain, i'w cywilydd eu hunain?” Am hyn fe ddywed yr ARGLWYDD Dduw, “Wele, tywelltir fy llid a'm dicter ar y lle hwn, ar ddyn ac ar anifail, ar bren y ddôl, ac ar ffrwyth y ddaear; bydd yn llosgi heb ddiffodd.” Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Chwanegwch eich poethoffrwm at eich aberthau; yna bwytewch y cig. Oherwydd ni ddywedais wrth eich hynafiaid, yn y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, na'u gorchymyn, ynghylch materion poethoffrwm ac aberth. Ond dyma'r gair a orchmynnais iddynt: ‘Gwrandewch ar fy llais, a byddaf yn Dduw i chwi, a byddwch chwithau'n bobl i mi; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnaf i chwi, iddi fod yn dda arnoch.’ Ond ni wrandawsant nac estyn clust, ond rhodio yn ôl eu barn eu hunain, ac yn ystyfnigrwydd eu calon ddrwg. Aethant yn ôl ac nid ymlaen. O'r dydd y daeth eich hynafiaid o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi anfonais atoch bob dydd fy ngweision y proffwydi; anfonais hwy yn gyson. Ond ni wrandawsant arnaf nac estyn clust, ond caledu gwar a gwneud yn waeth na'u hynafiaid. Lleferi wrthynt yr holl bethau hyn, ond ni wrandawant arnat; gelwi arnynt, ac ni'th atebant. A dywedi wrthynt, ‘Hon yw'r genedl a wrthododd wrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, ac ni dderbyniodd gerydd. Darfu am wirionedd; fe'i torrwyd ymaith o'u genau.’ Cneifia dy wallt, bwrw ef ymaith. Cyfod gwynfan ar yr uchel-leoedd; gwrthododd yr ARGLWYDD y genhedlaeth y digiodd wrthi, a bwriodd hi ymaith. Canys gwnaeth pobl Jwda ddrwg yn fy ngolwg,” medd yr ARGLWYDD, “trwy osod eu ffieidd-dra yn y tŷ y gelwir fy enw i arno, a'i halogi. Adeiladasant uchelfeydd i Toffet, sydd yn nyffryn Ben-hinnom, i losgi eu meibion a'u merched yn y tân. Ni orchmynnais hyn, ac ni ddaeth i'm meddwl. Am hynny fe ddaw y dyddiau,” medd yr ARGLWYDD, “nas gelwir mwyach yn Toffet nac yn ddyffryn Ben-hinnom, ond yn ddyffryn y lladdfa; a chleddir yn Toffet, o ddiffyg lle. Bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid y ddaear, ac ni bydd neb i'w gyrru i ffwrdd. A pharaf i bob llais ddistewi yn ninasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem, llais llawen a llon, llais priodfab a phriodferch. Bydd y wlad yn ddiffeithwch.”
Jeremeia 7:1-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Saf di ym mhorth tŷ yr ARGLWYDD, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma. Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD ydynt. Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog; Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddifad, a’r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i’ch niwed eich hun; Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i’ch tadau chwi, yn oes oesoedd. Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les. Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogldarthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch; Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd-dra hyn oll? Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr ARGLWYDD. Eithr, atolwg, ewch i’m lle, yr hwn a fu yn Seilo, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw, oherwydd anwiredd fy mhobl Israel. Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr ARGLWYDD, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch: Am hynny y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i’r lle a roddais i chwi ac i’ch tadau, megis y gwneuthum i Seilo. A mi a’ch taflaf allan o’m golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim. Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt, ac nac eiriol arnaf: canys ni’th wrandawaf. Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem? Y plant sydd yn casglu cynnud, a’r tadau yn cynnau tân, a’r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau i frenhines y nef, ac i dywallt diod-offrymau i dduwiau dieithr, i’m digio i. Ai fi y maent hwy yn ei ddigio? medd yr ARGLWYDD: ai hwynt eu hun, er cywilydd i’w hwynebau eu hun? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, fy llid a’m digofaint a dywelltir ar y man yma, ar ddyn ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaear; ac efe a lysg, ac nis diffoddir. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau, a bwytewch gig. Canys ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchmynnais iddynt, y dydd y dygais hwynt o dir yr Aifft, am boethoffrymau neu aberthau: Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a mi a fyddaf DDUW i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minnau; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnais i chwi, fel y byddo yn ddaionus i chwi. Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngasant eu clust, ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus, ac aethant yn ôl, ac nid ymlaen. O’r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi, bob dydd gan foregodi, ac anfon: Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu clust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na’u tadau. Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt; ond ni wrandawant arnat: gelwi hefyd arnynt; ond nid atebant di. Eithr ti a ddywedi wrthynt, Dyma genedl ni wrendy ar lais yr ARGLWYDD ei DUW, ac ni dderbyn gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymaith o’u genau hwynt. Cneifia dy wallt, O Jerwsalem, a bwrw i ffordd; a chyfod gwynfan ar y lleoedd uchel: canys yr ARGLWYDD a fwriodd i ffordd ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint. Canys meibion Jwda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg, medd yr ARGLWYDD: gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef. A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet, yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom, i losgi eu meibion a’u merched yn tân, yr hyn ni orchmynnais, ac ni feddyliodd fy nghalon. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, na elwir hi mwy Toffet, na glyn mab Hinnom, namyn glyn lladdedigaeth; canys claddant o fewn Toffet, nes bod eisiau lle. A bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a’u tarfo. Yna y gwnaf i lais llawenydd, a llais digrifwch, llais priodfab, a llais priodferch, ddarfod allan o ddinasoedd Jwda, ac o heolydd Jerwsalem; canys yn anrhaith y bydd y wlad.