Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 51:45-64 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Jeremeia 51:45-64 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dewch allan ohoni, fy mhobl! Rhedwch am eich bywydau, bob un ohonoch chi! A dianc oddi wrth lid ffyrnig yr ARGLWYDD! Peidiwch torri’ch calon na bod ag ofn pan glywch y si’n mynd ar led drwy’r wlad. Bydd un stori’n mynd o gwmpas un flwyddyn, ac un arall y flwyddyn wedyn. Bydd trais ofnadwy yn y wlad, wrth i lywodraethwyr ymladd yn erbyn ei gilydd. Mae’r amser yn dod pan fydda i’n cosbi eilun-dduwiau Babilon. Bydd y wlad i gyd yn cael ei chywilyddio, a bydd pobl yn syrthio’n farw ym mhobman. Bydd y nefoedd a’r ddaear a phopeth ynddyn nhw yn canu’n llawen am beth fydd yn digwydd i Babilon. Bydd byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd i’w dinistrio nhw,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Rhaid i Babilon syrthio, am ei bod wedi lladd cymaint o bobl Israel, ac am ei bod wedi lladd cymaint o bobl drwy’r byd i gyd.” Chi bobl wnaeth lwyddo i ddianc rhag cael eich lladd gan gleddyf Babilon, ewch allan ohoni ar frys! Peidiwch loetran! Cofiwch yr ARGLWYDD yn y wlad bell. Meddyliwch am Jerwsalem. “Mae gynnon ni gywilydd; dŷn ni wedi cael ein sarhau. Mae’r gwarth i’w weld ar ein hwynebau. Aeth paganiaid i mewn i’r lleoedd sanctaidd yn nheml yr ARGLWYDD.” ARGLWYDD “Felly mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD, “pan fydda i’n cosbi eu heilun-dduwiau nhw, a bydd pobl wedi’u hanafu yn griddfan mewn poen drwy’r wlad i gyd. Hyd yn oed petai waliau Babilon yn cyrraedd i’r awyr, a’i chaerau’n anhygoel o gryf, byddwn i’n anfon byddin i’w dinistrio hi,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. Gwrandwch – pobl yn gweiddi yn Babilon! Sŵn dinistr ofnadwy’n dod o wlad Babilonia! Mae’r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio Babilon. Mae e’n mynd i roi taw ar ei thwrw! Bydd sŵn y gelyn fel sŵn tonnau’n rhuo – byddin a’i sŵn yn fyddarol. Ydy, mae’r gelyn sy’n dinistrio’n ymosod! Bydd milwyr Babilon yn cael eu dal, a’i bwâu yn cael eu torri. Mae’r ARGLWYDD yn Dduw sy’n cosbi. Bydd yn talu’n ôl yn llawn iddyn nhw! “Bydda i’n meddwi ei swyddogion a’i gwŷr doeth, ei llywodraethwyr, ei phenaethiaid a’i milwyr. Byddan nhw’n syrthio i gysgu am byth. Fyddan nhw ddim yn deffro eto,” meddai’r Brenin –yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e. Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Bydd wal drwchus dinas Babilon yn cael ei bwrw i lawr. Bydd ei giatiau uchel yn cael eu llosgi. Bydd ymdrechion y bobloedd i ddim byd. Bydd holl lafur y gwledydd yn cael ei losgi!” Dyna’r negeseuon roedd y proffwyd Jeremeia wedi’u rhoi i Seraia (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Seraia oedd swyddog llety’r brenin, ac roedd wedi mynd gyda Sedeceia, brenin Jwda, i Babilon yn y bedwaredd flwyddyn i Sedeceia fel brenin. Roedd Jeremeia wedi ysgrifennu mewn sgrôl am y dinistr ofnadwy oedd yn mynd i ddod ar Babilon. Yna dwedodd wrth Seraia: “Gwna’n siŵr dy fod yn darllen y cwbl yn uchel i’r bobl ar ôl cyrraedd Babilon. Wedyn gweddïa, ‘O ARGLWYDD, rwyt ti wedi dweud yn glir dy fod ti’n mynd i ddinistrio’r lle yma. Fydd dim pobl nac anifeiliaid yn gallu byw yma. Bydd yn lle anial am byth.’ Ar ôl darllen y sgrôl, rhwyma hi wrth garreg a’i thaflu i ganol afon Ewffrates. Yna gwna’r datganiad yma: ‘Fel hyn bydd Babilon yn suddo, a fydd hi byth yn codi eto, o achos yr holl ddinistr dw i’n ei anfon arni.’” Dyma ddiwedd neges Jeremeia.

Jeremeia 51:45-64 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ewch allan ohoni, fy mhobl; achubed pob un ei hunan rhag angerdd llid yr ARGLWYDD. “Gochelwch rhag i'ch calon lwfrhau, a pheidiwch ag ofni rhag chwedlau a daenir drwy'r wlad. Clywir si un flwyddyn, a si drachefn y flwyddyn wedyn; ceir trais yn y wlad a llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr. Oherwydd y mae'r dyddiau'n dod y cosbaf ddelwau Babilon; bydd yr holl wlad yn waradwydd, a'i lladdedigion i gyd yn syrthio yn ei chanol. Yna fe orfoledda'r nefoedd a'r ddaear, a phob peth sydd ynddynt, yn erbyn Babilon, oherwydd daw anrheithwyr o'r gogledd yn ei herbyn,” medd yr ARGLWYDD. “Rhaid i Fabilon syrthio oherwydd lladdedigion Israel, fel y syrthiodd lladdedigion yr holl ddaear oherwydd Babilon. Ewch heb oedi, chwi y rhai a ddihangodd rhag y cleddyf; cofiwch yr ARGLWYDD yn y pellteroedd, galwch Jerwsalem i gof. ‘Gwaradwyddwyd ni,’ meddwch, ‘pan glywsom gerydd, gorchuddiwyd ein hwyneb â gwarth, canys daeth estroniaid i gynteddoedd sanctaidd tŷ'r ARGLWYDD.’ “Am hynny, dyma'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cosbaf ei delwau ac y griddfana'r rhai clwyfedig trwy'r holl wlad. Er i Fabilon ddyrchafu i'r nefoedd, a diogelu ei hamddiffynfa uchel, daw ati anrheithwyr oddi wrthyf fi,” medd yr ARGLWYDD. “Clyw! Daw gwaedd o Fabilon, dinistr mawr o wlad y Caldeaid. Oherwydd anrheithia'r ARGLWYDD Fabilon, a distewi ei sŵn mawr. Bydd ei thonnau'n rhuo fel dyfroedd yn dygyfor, a'i thwrf yn codi. Oblegid daw anrheithiwr yn ei herbyn, yn erbyn Babilon; delir ei chedyrn, dryllir eu bwa, oherwydd bydd yr ARGLWYDD, Duw dial, yn talu iddynt yn llawn. Meddwaf ei thywysogion a'i doethion, ei llywodraethwyr a'i swyddogion, a'i gwŷr cedyrn; cysgant hun ddiderfyn, ddiddeffro,” medd y Brenin—ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Dryllir i'r llawr furiau llydan Babilon; llosgir ei phyrth uchel â thân; yn ofer y llafuriodd y bobloedd, a bydd ymdrech y cenhedloedd yn gorffen mewn tân.” Dyma hanes gorchymyn y proffwyd Jeremeia i Seraia fab Nereia, fab Maaseia, pan aeth i Fabilon gyda Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad. Swyddog cyflenwi oedd Seraia. Ysgrifennodd Jeremeia mewn llyfr yr holl aflwydd oedd i ddod ar Fabilon, yr holl eiriau hyn a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon. A dywedodd Jeremeia wrth Seraia, “Pan ddoi i Fabilon, edrych ar hwn, a darllen yr holl eiriau hyn, ac yna dywed, ‘O ARGLWYDD, lleferaist yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio, fel na byddai ynddo na dyn nac anifail yn byw, ond iddo fod yn anghyfannedd tragwyddol.’ Pan orffenni ddarllen y llyfr, rhwyma garreg wrtho a'i fwrw i ganol afon Ewffrates, a dywed, ‘Fel hyn y suddir Babilon; ni fydd yn codi mwyach wedi'r dinistr a ddygaf arni; a diffygiant.’ ” Dyma ddiwedd geiriau Jeremeia.

Jeremeia 51:45-64 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Deuwch allan o’i chanol, O fy mhobl, ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr ARGLWYDD, A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a’r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf â delwau Babilon; a’i holl wlad hi a waradwyddir, a’i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol. Yna y nefoedd a’r ddaear, a’r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o’r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr ARGLWYDD. Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear. Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr ARGLWYDD o bell, a deued Jerwsalem yn eich cof chwi. Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein hwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr ARGLWYDD. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan ymwelwyf fi â’i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr archolledig a riddfan. Er i Babilon ddyrchafu i’r nefoedd, ac er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi wrthyf fi, medd yr ARGLWYDD. Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid. Oherwydd yr ARGLWYDD a anrheithiodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o’i thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu llef hwynt. Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a’i chedyrn hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys ARGLWYDD DDUW y gwobr a obrwya yn sicr. A myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a’i doethion, ei phenaethiaid, a’i swyddogion, a’i chedyrn: a hwy a gysgant hun dragwyddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon, a’i huchel byrth a losgir â thân; a’r bobl a ymboenant mewn oferedd, a’r cenhedloedd mewn tân, a hwy a ddiffygiant. Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia, mab Maaseia, pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad ef. A Seraia oedd dywysog llonydd. Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar ddyfod yn erbyn Babilon, mewn un llyfr; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon. A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia, Pan ddelych i Babilon, a gweled, a darllen yr holl eiriau hyn; Yna dywed, O ARGLWYDD, ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio, fel na byddai ynddo breswylydd, na dyn nac anifail, eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol. A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym faen wrtho, a bwrw ef i ganol Ewffrates: A dywed, Fel hyn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi, gan y drwg a ddygaf fi arni: a hwy a ddiffygiant. Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia.