Jeremeia 38:1-28
Jeremeia 38:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Sheffateia fab Mattan, Gedaleia fab Pashchwr, Iwchâl fab Shelemeia, a Pashchwr fab Malcîa, wedi clywed beth oedd Jeremeia wedi bod yn ei ddweud wrth y bobl. Roedd yn dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd pawb sy’n aros yn y ddinas yma’n cael eu lladd yn y rhyfel, neu’n marw o newyn neu haint. Ond bydd y rhai sy’n ildio i’r Babiloniaid yn cael byw.’ Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd y ddinas yma’n cael ei rhoi yn nwylo byddin brenin Babilon. Byddan nhw’n ei choncro hi.’” Felly dyma’r pedwar swyddog yn mynd at y brenin a dweud, “Rhaid i’r dyn yma farw! Mae e’n torri calonnau’r milwyr a’r bobl sydd ar ôl yn y ddinas yma. Dydy e ddim yn trio helpu’r bobl yma o gwbl – gwneud niwed iddyn nhw mae e!” “O’r gorau,” meddai’r Brenin Sedeceia, “gwnewch beth fynnoch chi ag e. Alla i ddim eich stopio chi.” Felly dyma nhw’n cymryd Jeremeia a’i daflu i bydew Malcîa, aelod o’r teulu brenhinol. Mae’r pydew yn iard y gwarchodlu, a dyma nhw’n ei ollwng i lawr iddo gyda rhaffau. Doedd dim dŵr yn y pydew, ond roedd mwd ar y gwaelod. A dyma Jeremeia yn suddo i mewn i’r mwd. Yna dyma Ebed-melech, dyn du o Affrica oedd yn swyddog yn y llys brenhinol, yn clywed eu bod nhw wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Roedd y brenin mewn achos llys wrth Giât Benjamin ar y pryd. Dyma Ebed-melech yn gadael y palas ac yn mynd i siarad â’r brenin. “Fy mrenin, syr,” meddai, “mae’r dynion yna wedi gwneud peth drwg iawn yn y ffordd maen nhw wedi trin y proffwyd Jeremeia. Maen nhw wedi’i daflu i mewn i’r pydew. Mae’n siŵr o lwgu i farwolaeth yno achos does prin dim bwyd ar ôl yn y ddinas.” Felly dyma’r brenin yn rhoi’r gorchymyn yma i Ebed-melech o Affrica: “Dos â thri deg o ddynion gyda ti, a thynnu’r proffwyd Jeremeia allan o’r pydew cyn iddo farw.” Felly dyma Ebed-melech yn mynd â’r dynion gydag e. Aeth i’r palas a nôl hen ddillad a charpiau o’r ystafell dan y trysordy. Gollyngodd nhw i lawr i Jeremeia yn y pydew gyda rhaffau. Wedyn dyma Ebed-melech yn dweud wrth Jeremeia, “Rho’r carpiau a’r hen ddillad yma rhwng dy geseiliau a’r rhaffau.” A dyma Jeremeia’n gwneud hynny. Yna dyma nhw’n tynnu Jeremeia allan o’r pydew gyda’r rhaffau. Ond roedd rhaid i Jeremeia aros yn iard y gwarchodlu wedyn. Dyma’r Brenin Sedeceia yn anfon am y proffwyd Jeremeia i’w gyfarfod wrth y drydedd fynedfa i deml yr ARGLWYDD. A dyma fe’n dweud wrth Jeremeia, “Dw i eisiau dy holi di. Paid cuddio dim oddi wrtho i.” Ond dyma Jeremeia’n ateb, “Os gwna i ddweud y cwbl wrthot ti, byddi’n fy lladd i. A wnei di ddim gwrando arna i os gwna i roi cyngor i ti beth bynnag.” Ond dyma’r Brenin Sedeceia yn addo i Jeremeia, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD sy’n rhoi bywyd i ni yn fyw, wna i ddim dy ladd di, a wna i ddim dy roi di yn nwylo’r dynion hynny sydd eisiau dy ladd di chwaith.” Felly dyma Jeremeia’n dweud wrth Sedeceia, “Dyma mae’r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rhaid i ti ildio i swyddogion brenin Babilon. Os gwnei di, byddi di a dy deulu yn cael byw, a fydd y ddinas yma ddim yn cael ei llosgi. Ond os byddi’n gwrthod ildio iddyn nhw, bydd y ddinas yma’n cael ei rhoi yn nwylo’r Babiloniaid, a byddan nhw’n ei llosgi’n ulw. A fyddi di ddim yn dianc o’u gafael nhw chwaith.’” Dyma’r Brenin Sedeceia yn dweud wrth Jeremeia, “Mae gen i ofn y bobl hynny o Jwda sydd wedi mynd drosodd at y Babiloniaid. Os bydd y Babiloniaid yn fy rhoi i’n eu dwylo nhw, byddan nhw’n fy ngham-drin i.” “Na, fydd hynny ddim yn digwydd,” meddai Jeremeia. “Gwna di beth mae’r ARGLWYDD wedi’i ddweud drwyddo i, a bydd popeth yn iawn. Bydd dy fywyd yn cael ei arbed. Ond os gwnei di wrthod ildio, mae’r ARGLWYDD wedi dangos i mi beth fydd yn digwydd – bydd y merched sydd ar ôl yn y palas brenhinol yn cael eu cymryd at swyddogion brenin Babilon, a dyma fydd yn cael ei ddweud amdanat ti: ‘Mae dy ffrindiau wedi dy gamarwain di! Maen nhw wedi cael y gorau arnat ti! Pan oedd dy draed yn sownd yn y mwd dyma nhw’n cerdded i ffwrdd!’ Bydd dy wragedd a dy blant i gyd yn cael eu cymryd gan y Babiloniaid. A fyddi di dy hun ddim yn dianc o’u gafael nhw chwaith – bydd brenin Babilon yn dy ddal di. A bydd y ddinas yma’n cael ei llosgi’n ulw.” “Paid gadael i neb wybod am y sgwrs yma,” meddai Sedeceia wrth Jeremeia. “Os gwnei di, bydd dy fywyd mewn perygl. Petai’r swyddogion yn dod i glywed fy mod i wedi siarad gyda ti ac yn dod atat i ofyn, ‘Beth ddwedaist ti wrth y brenin? A beth ddwedodd e wrthot ti? Dwed y cwbl wrthon ni, neu byddwn ni’n dy ladd di!’ Petai hynny’n digwydd, dywed wrthyn nhw, ‘Rôn i’n pledio ar i’r brenin beidio fy anfon i’n ôl i’r dwnsiwn yn nhŷ Jonathan, i farw yno.’” A dyna ddigwyddodd. Pan ddaeth y swyddogion at Jeremeia i’w holi, dyma fe’n dweud yn union beth oedd y brenin wedi’i orchymyn iddo. Wnaethon nhw ddim ei groesholi ddim mwy, achos doedd neb wedi clywed y sgwrs rhwng Jeremeia a’r brenin. Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu hyd y dydd pan gafodd Jerwsalem ei choncro.
Jeremeia 38:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywodd Seffateia fab Mattan, Gedaleia fab Pasur, Jucal fab Selemeia, a Pasur fab Malcheia y geiriau yr oedd Jeremeia'n eu llefaru wrth yr holl bobl, gan ddweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pwy bynnag fydd yn aros yn y ddinas hon, fe fydd farw trwy gleddyf, newyn a haint; ond pwy bynnag fydd yn mynd allan at y Caldeaid, bydd hwnnw fyw; bydd yn arbed ei fywyd ac yn byw.’ Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yn ddiau rhoir y ddinas hon yng ngafael llu brenin Babilon, a bydd ef yn ei hennill.’ ” Yna dywedodd y swyddogion wrth y brenin, “Atolwg, rhodder y dyn hwn i farwolaeth; oblegid y mae'n gwanhau dwylo gweddill y milwyr sydd yn y ddinas hon, a phawb o'r bobl, trwy lefaru fel hyn wrthynt. Nid yw'r dyn yn meddwl am les y bobl hyn, ond am eu niwed.” Atebodd y Brenin Sedeceia, “Y mae yn eich dwylo chwi; ni ddichon y brenin wneud dim i'ch gwrthwynebu yn y mater.” A chymerasant Jeremeia, a'i fwrw i bydew Malcheia, mab y brenin, yng nghyntedd y gwylwyr; gollyngasant Jeremeia i lawr wrth raffau. Nid oedd dŵr yn y pydew, dim ond llaid, a suddodd Jeremeia yn y llaid. Clywodd Ebed-melech yr Ethiopiad, eunuch ym mhlasty'r brenin, eu bod wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Yr oedd y brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin, ac aeth Ebed-melech allan o'r plasty at y brenin a dweud, “F'arglwydd frenin, gwnaeth y gwŷr hyn ddrwg ym mhob peth a wnaethant i'r proffwyd Jeremeia, trwy ei fwrw i'r pydew; bydd farw yn y lle gan y newyn, am nad oes bara mwyach yn y ddinas.” Yna gorchmynnodd y brenin i Ebed-melech yr Ethiopiad, “Cymer gyda thi dri o wŷr, a chodi'r proffwyd Jeremeia o'r pydew cyn iddo farw.” Cymerodd Ebed-melech y gwŷr ac aeth i'r ystafell wisgo yn y plasty, a chymryd oddi yno hen garpiau a hen fratiau, a'u gollwng i lawr wrth raffau at Jeremeia yn y pydew. A dywedodd Ebed-melech yr Ethiopiad wrth Jeremeia, “Gosod yr hen garpiau a'r bratiau dan dy geseiliau o dan y rhaffau.” Gwnaeth Jeremeia felly. A thynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, a'i godi o'r pydew. Wedi hyn arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr. Anfonodd y Brenin Sedeceia i gyrchu'r proffwyd Jeremeia ato yn y trydydd cyntedd i dŷ'r ARGLWYDD, a dywedodd wrth Jeremeia, “Yr wyf am ofyn rhywbeth i ti; paid â chelu dim oddi wrthyf.” Dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Os mynegaf i ti, oni roi fi i farwolaeth? Os rhof gyngor i ti, ni wrandewi arnaf.” Ond tyngodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia yn gyfrinachol, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD, a roes einioes inni, yn fyw, ni'th rof i farwolaeth, na'th roi yng ngafael y rhai hyn sy'n ceisio dy einioes.” Yna dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, Duw Israel: ‘Os ei allan ac ymostwng i swyddogion brenin Babilon, yna byddi fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; byddi fyw, ti a'th dylwyth. Os nad ei allan at swyddogion brenin Babilon, rhoir y ddinas hon yng ngafael y Caldeaid, ac fe'i llosgant hi â thân, ac ni fyddi dithau'n dianc o'u gafael.’ ” A dywedodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia, “Y mae arnaf ofn yr Iddewon a drodd at y Caldeaid, rhag iddynt fy rhoi yn eu gafael ac iddynt fy ngham-drin.” Dywedodd Jeremeia, “Ni'th roddir yn eu gafael. Gwrando yn awr ar lais yr ARGLWYDD yn yr hyn yr wyf yn ei lefaru wrthyt, a bydd yn dda iti, a chedwir dy einioes. Os gwrthodi fynd allan, dyma'r gair a ddatguddiodd yr ARGLWYDD i mi: ‘Wele, caiff yr holl wragedd a adawyd yn nhŷ brenin Jwda eu dwyn allan at swyddogion brenin Babilon, ac fe ddywedant, “Hudodd dy gyfeillion di, a buont yn drech na thi; yn awr, a'th draed wedi glynu yn y llaid, troesant draw oddi wrthyt.’ ” Dygir allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u gafael, ond fe'th ddelir yng ngafael brenin Babilon, a llosgir y ddinas hon â thân.” Yna dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, “Paid â gadael i neb wybod am y geiriau hyn, ac ni fyddi farw. Ond os clyw'r swyddogion i mi ymddiddan â thi, a dod atat a dweud wrthyt, ‘Mynega i ni beth a draethodd y brenin wrthyt ti, a beth a ddywedaist wrth y brenin; paid â chelu dim oddi wrthym, ac ni'th roddwn i farwolaeth’, yna dywedi wrthynt, ‘Yr oeddwn yn gwneud cais yn ostyngedig i'r brenin, ar iddo beidio â'm gyrru'n ôl i dŷ Jonathan i farw yno.’ ” Pan ddaeth yr holl swyddogion at Jeremeia, a'i holi, mynegodd ef iddynt bob peth yn ôl gorchymyn y brenin. A pheidiasant â'i holi ragor, ac ni chlywyd am y neges. Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr hyd y dydd y syrthiodd Jerwsalem, ac yr oedd yno pan syrthiodd Jerwsalem.
Jeremeia 38:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna Seffatia mab Mattan, a Gedaleia mab Pasur, a Jucal mab Selemeia, a Phasur mab Malcheia, a glywsant y geiriau a draethasai Jeremeia wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a fydd farw trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo, a byw fydd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon, yr hwn a’i hennill hi. Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo’r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn, ond niwed. A’r brenin Sedeceia a ddywedodd, Wele ef yn eich llaw chwi: canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi. Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a’i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond tom: felly Jeremeia a lynodd yn y dom. A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad, un o’r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin, iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy, (a’r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,) Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin, ac a lefarodd wrth y brenin, gan ddywedyd, O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd, yr hwn a fwriasant hwy i’r daeardy; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae, oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas. Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Cymer oddi yma ddengwr ar hugain gyda thi, a chyfod Jeremeia y proffwyd o’r daeardy cyn ei farw. Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef, ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy, ac a gymerodd oddi yno hen garpiau, a hen bwdr fratiau, ac a’u gollyngodd i waered at Jeremeia i’r daeardy wrth raffau. Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia, Gosod yn awr yr hen garpiau a’r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau. A Jeremeia a wnaeth felly. Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, ac a’i codasant ef o’r daeardy; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy. Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i’r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a’r brenin a ddywedodd wrth Jeremeia, Mi a ofynnaf i ti beth: na chela ddim oddi wrthyf fi. A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia, Os mynegaf i ti, oni roddi di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, oni wrandewi di arnaf? Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes. Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, DUW Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a’th deulu. Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a’i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt. A’r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia, Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid, rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i’r rhai hynny fy ngwatwar. A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a’th enaid a fydd byw. Ond os gwrthodi fyned allan, dyma y gair a ddangosodd yr ARGLWYDD i mi: Ac wele, yr holl wragedd, y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a’th hudasant, ac a’th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl. Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a’th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt; canys â llaw brenin Babilon y’th ddelir; a’r ddinas hon a losgi â thân. Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, Na chaffed neb wybod y geiriau hyn, ac ni’th roddir i farwolaeth. Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac os deuant atat ti, a dywedyd wrthyt, Mynega yn awr i ni beth a draethaist ti wrth y brenin; na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau: Yna dywed wrthynt, Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin, na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan, i farw yno. Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia, ac a’i holasant ef: ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn, y rhai a orchmynasai y brenin: felly hwy a beidiasant ag ymddiddan ag ef, canys ni chafwyd clywed y peth. A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy hyd y dydd yr enillwyd Jerwsalem; ac yno yr oedd efe pan enillwyd Jerwsalem.