Jeremeia 36:20-26
Jeremeia 36:20-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma nhw’n cadw’r sgrôl yn saff yn ystafell Elishama, yr ysgrifennydd brenhinol. Wedyn aethon nhw i ddweud wrth y brenin am y cwbl. Dyma’r brenin yn anfon Iehwdi i nôl y sgrôl. Aeth Iehwdi i’w nôl o ystafell Elishama, ac yna ei darllen i’r brenin a’r swyddogion oedd yn sefyll o’i gwmpas. Y nawfed mis oedd hi, ac roedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy lle roedd tân yn llosgi mewn padell dân o’i flaen. Bob tro roedd Iehwdi wedi darllen tair neu bedair colofn byddai’r brenin yn eu torri i ffwrdd gyda chyllell fach a’u taflu i’r tân yn y badell. Gwnaeth hyn nes roedd y sgrôl gyfan wedi’i llosgi. Wnaeth y brenin a’i swyddogion ddim cynhyrfu o gwbl pan glywon nhw’r negeseuon, a wnaethon nhw ddim rhwygo’u dillad i ddangos eu bod nhw’n edifar. Roedd Elnathan, Delaia a Gemareia wedi pledio ar y brenin i beidio llosgi’r sgrôl, ond wnaeth e ddim gwrando arnyn nhw. A dyma’r brenin yn gorchymyn i Ierachmeël (un o’r tywysogion brenhinol), Seraia fab Asriel a Shelemeia fab Abdeël, arestio Barŵch y copïwr a Jeremeia’r proffwyd. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi’u cuddio nhw.
Jeremeia 36:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna aethant at y brenin i'r llys, ar ôl iddynt gadw'r sgrôl yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd, a mynegwyd y cwbl yng nghlyw'r brenin. Yna anfonwyd Jehudi gan y brenin i gyrchu'r sgrôl, a daeth yntau â hi o ystafell Elisama yr ysgrifennydd; a darllenodd Jehudi hi yng nghlyw'r brenin a'r holl swyddogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin. Y nawfed mis oedd hi, ac yr oedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy, a'r rhwyll dân wedi ei chynnau o'i flaen. Pan fyddai Jehudi wedi darllen tair neu bedair colofn, torrai'r brenin hwy â chyllell yr ysgrifennydd, a'u taflu i'w llosgi yn y rhwyll dân, nes difa'r sgrôl gyfan yn y tân. Ond nid oedd y brenin na'i weision yn arswydo nac yn rhwygo'u dillad, wrth wrando ar yr holl eiriau hyn. Pan ymbiliodd Elnathan a Delaia a Gemareia ar y brenin i beidio â llosgi'r sgrôl, ni wrandawai arnynt. Yna gorchmynnodd y brenin i Jerahmeel fab y brenin a Seraia fab Asriel a Selemeia fab Abdiel ddal Baruch yr ysgrifennydd a Jeremeia y proffwyd; ond cuddiodd yr ARGLWYDD hwy.
Jeremeia 36:20-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a aethant at y brenin i’r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin. A’r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a’i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a’i darllenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin. A’r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis; a thân wedi ei gynnau ger ei fron. A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair, yna efe a’i torrodd â chyllell ysgrifennydd, ac a’i bwriodd i’r tân oedd yn yr aelwyd, nes darfod o’r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd. Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na’r brenin, nac yr un o’i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn. Eto Elnathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant â’r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt. Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr ARGLWYDD a’u cuddiodd hwynt.