Jeremeia 29:18
Jeremeia 29:18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i’w taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhw’n enghraifft o wlad wedi’i melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhw’n destun sbort i’r gwledydd lle bydda i’n eu hanfon nhw’n gaeth.
Jeremeia 29:18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymlidiaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint, a gwnaf hwy'n arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith ac arswyd a syndod a chywilydd ymhlith yr holl genhedloedd y gyrraf hwy atynt.
Jeremeia 29:18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A mi a’u herlidiaf hwynt â’r cleddyf, â newyn, ac â haint; ac mi a’u rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith, ac yn chwithdra, ac yn chwibaniad, ac yn warth, ymysg yr holl genhedloedd lle y gyrrais i hwynt