Jeremeia 27:9
Jeremeia 27:9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly peidiwch gwrando ar eich proffwydi, na’r bobl hynny sy’n dweud ffortiwn drwy ddehongli breuddwydion, cysylltu gyda’r meirw neu ddewino – y rhai sy’n dweud fydd dim rhaid i chi wasanaethu brenin Babilon.
Rhanna
Darllen Jeremeia 27Jeremeia 27:9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Peidiwch â gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, ‘Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.’
Rhanna
Darllen Jeremeia 27Jeremeia 27:9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi, nac ar eich dewiniaid, nac ar eich breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon
Rhanna
Darllen Jeremeia 27