Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 25:1-14

Jeremeia 25:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Cafodd Jeremeia neges gan yr ARGLWYDD am bobl Jwda yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda (hon hefyd oedd y flwyddyn y cafodd Nebwchadnesar ei wneud yn frenin Babilon). Dyma ddwedodd y proffwyd Jeremeia wrth bobl Jwda a’r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem: “Mae’r ARGLWYDD wedi bod yn siarad hefo fi ers dau ddeg tair o flynyddoedd – o’r adeg pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin am un deg tair o flynyddoedd hyd heddiw. Dw i wedi dweud wrthoch chi dro ar ôl tro beth oedd ei neges, ond dych chi ddim wedi gwrando. Ac mae’r ARGLWYDD wedi dal ati i anfon ei weision y proffwydi atoch chi. Ond dych chi ddim wedi gwrando na chymryd unrhyw sylw. Y neges oedd, ‘Rhaid i bob un ohonoch chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi’n eu gwneud; wedyn byddwch chi’n cael aros yn y wlad roddodd yr ARGLWYDD i chi a’ch hynafiaid am byth bythoedd. Stopiwch addoli a gwasanaethu duwiau eraill, a’m gwylltio i drwy blygu i eilunod dych chi eich hunain wedi’u cerfio. Wedyn fydda i’n gwneud dim drwg i chi. Ond wnaethoch chi ddim gwrando arna i,’ meddai’r ARGLWYDD. ‘Dych chi wedi fy ngwylltio i gyda’ch eilunod. Dych chi wedi dod â drwg arnoch chi’ch hunain.’ “Felly dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Dych chi ddim wedi gwrando arna i. Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i’w wneud: dw i’n mynd i anfon am bobloedd y gogledd, ac am fy ngwas i, Nebwchadnesar brenin Babilon. Dw i’n mynd i’w cael nhw i ymosod ar y wlad yma a’i phobl ac ar y gwledydd o’i chwmpas hefyd. Dw i’n mynd i’w dinistrio nhw’n llwyr. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yma. Fydd pobl ddim yn stopio rhyfeddu at y llanast. Bydda i’n rhoi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Fydd dim sŵn maen melin yn troi, a dim golau lamp i’w weld yn y tai. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. A bydd y gwledydd yn gorfod gwasanaethu brenin Babilon am saith deg mlynedd. “‘Ar ddiwedd y saith deg mlynedd bydda i’n cosbi brenin Babilon a’i wlad am y drwg wnaethon nhw. Bydd gwlad y Babiloniaid yn cael ei dinistrio am byth. Bydd popeth wnes i ei fygwth yn digwydd iddi – popeth sydd wedi’i ysgrifennu yn y llyfr yma, sef beth mae Jeremeia wedi’i broffwydo yn erbyn y gwledydd i gyd. Bydd brenin a phobl Babilon yn gorfod gwasanaethu brenhinoedd a gwledydd eraill. Bydda i’n talu’n ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw.’”

Jeremeia 25:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda ym mhedwaredd flwyddyn Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a blwyddyn gyntaf Nebuchadnesar brenin Babilon. Llefarodd Jeremeia y proffwyd wrth holl bobl Jwda a holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddweud, “o'r drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Joseia fab Amon, brenin Jwda, hyd heddiw, hynny yw, tair blynedd ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a lleferais wrthych yn gyson, ond ni wrandawsoch. Anfonodd yr ARGLWYDD ei holl weision y proffwydi atoch yn gyson; ond ni wrandawsoch, na gogwyddo clust i wrando, pan ddywedwyd, ‘Dychwelwch, yn awr, bob un o'i ffordd annuwiol, ac o'ch gweithredoedd drwg, a thrigwch yn y tir a roes yr ARGLWYDD i chwi ac i'ch hynafiaid byth ac yn dragywydd. Peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill, i'w gwasanaethu a'u haddoli, a pheidiwch â'm digio â gwaith eich dwylo; yna ni wnaf niwed i chwi.’ Ond ni wrandawsoch arnaf,” medd yr ARGLWYDD, “ond fy nigio â gwaith eich dwylo, er niwed i chwi. “Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau, yr wyf yn anfon am holl lwythau'r gogledd,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac am Nebuchadnesar brenin Babilon, fy ngwas, a'u dwyn yn erbyn y wlad hon a'i phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; a difrodaf hwy a'u gosod yn ddychryn ac yn syndod ac yn anghyfanedd-dra hyd byth. Ataliaf o'u plith bob sain hyfryd a llawen, sain priodfab a phriodferch, sain meini melin yn malu, a golau llusern. Bydd yr holl wlad hon yn ddiffaith ac yn ddychryn, a bydd y cenhedloedd hyn yn gwasanaethu brenin Babilon am ddeng mlynedd a thrigain. Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain hyn cosbaf frenin Babilon a'r genedl honno am eu camwedd,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a chosbaf wlad y Caldeaid, a gwnaf hi yn anghyfannedd hyd byth. Dygaf ar y wlad honno yr holl eiriau a leferais yn ei herbyn, a phob peth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr hwn, pob peth a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd. Canys fe'u caethiwir hwythau gan genhedloedd cryfion a brenhinoedd mawrion, ac felly y talaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd a gwaith eu dwylo.’ ”

Jeremeia 25:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nebuchodonosor brenin Babilon; Yr hwn a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth holl bobl Jwda, ac wrth holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd, Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, honno yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch. A’r ARGLWYDD a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi, gan foregodi a’u hanfon; ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clust i glywed. Hwy a ddywedent, Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd; a thrigwch yn y tir a roddodd yr ARGLWYDD i chwi ac i’ch tadau, byth ac yn dragywydd: Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu, ac i ymgrymu iddynt; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi. Er hynny ni wrandawsoch arnaf, medd yr ARGLWYDD, fel y digiech fi â gweithredoedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain. Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau, Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr ARGLWYDD, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol. Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau, ballu ganddynt. A’r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch, ac yn syndod: a’r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain. A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â’r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, am eu hanwiredd, ac â gwlad y Caldeaid; a mi a’i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol. Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a leferais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd. Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun.