Jeremeia 2:11-13
Jeremeia 2:11-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Oes gwlad arall wedi newid ei duwiau? (A dydy’r rheiny ddim yn dduwiau go iawn!) Ond mae fy mhobl i wedi fy ffeirio i, y Duw gwych, am ‘dduwiau’ sy’n ddim ond delwau diwerth. Mae’r nefoedd mewn sioc fod y fath beth yn gallu digwydd! Mae’n ddychryn! Mae’r peth yn syfrdanol!” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Mae fy mhobl wedi gwneud dau beth drwg: maen nhw wedi troi cefn arna i, y ffynnon o ddŵr glân gloyw, a chloddio pydewau iddyn nhw’u hunain – pydewau wedi cracio sydd ddim yn dal dŵr!”
Jeremeia 2:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A fu i unrhyw genedl newid ei duwiau, a hwythau heb fod yn dduwiau? Ond rhoddodd fy mhobl eu gogoniant yn gyfnewid am bethau dilesâd. O nefoedd, rhyfeddwch at hyn; arswydwch, ac ewch yn gwbl ddiffaith,’ medd yr ARGLWYDD. ‘Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg: fe'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, a chloddio iddynt eu hunain bydewau, pydewau toredig, na allant ddal dŵr.’ ”
Jeremeia 2:11-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd. O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr ARGLWYDD. Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a’m gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.