Jeremeia 18:18
Jeremeia 18:18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r bobl yn dweud, “Dewch, gadewch i ni ddelio hefo Jeremeia. Bydd offeiriaid yn dal ar gael i roi arweiniad i ni, dynion doeth i roi cyngor i ni, a phroffwydi i roi neges Duw i ni. Dewch, gadewch i ni ddod â cyhuddiadau yn ei erbyn. Fydd dim rhaid i ni wrando arno fe o gwbl wedyn.”
Jeremeia 18:18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedodd y bobl, “Dewch, gwnawn gynllwyn yn erbyn Jeremeia; ni chiliodd cyfarwyddyd oddi wrth yr offeiriad, na chyngor oddi wrth y doeth, na gair oddi wrth y proffwyd; dewch, gadewch inni ei faeddu â'r tafod, a pheidio ag ystyried yr un o'i eiriau.”
Jeremeia 18:18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef â’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef.