Jeremeia 16:1-13
Jeremeia 16:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Paid priodi na chael plant yn y wlad yma. Achos dyma sy’n mynd i ddigwydd i’r plant fydd yn cael eu geni yma, ac i’w mamau a’u tadau nhw: byddan nhw’n marw o afiechydon erchyll. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn eu claddu nhw. Byddan nhw’n gorwedd fel tail ar wyneb y tir, wedi’u lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn, a bydd yr adar a’r anifeiliaid gwyllt yn bwyta eu cyrff.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid mynd i dŷ lle mae rhywun wedi marw. Paid mynd i alaru nac i gydymdeimlo. Dw i ddim am roi llwyddiant na heddwch i’r bobl yma eto. Dw i ddim am ddangos caredigrwydd na thrugaredd atyn nhw. Bydd yr arweinwyr a’r bobl gyffredin yn marw yn y wlad yma. Fyddan nhw ddim yn cael eu claddu, a fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw. Fydd pobl ddim yn torri eu hunain â chyllyll a siafio’u pennau i ddangos mor drist ydyn nhw. Fydd neb yn mynd â bwyd i’r rhai sy’n galaru, i godi eu calonnau nhw, na rhoi gwin iddyn nhw chwaith, i’w cysuro ar ôl iddyn nhw golli mam neu dad. “Paid mynd i rywle lle mae pobl yn gwledda a phartïo chwaith. Dw i, yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud fy mod i’n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio yn y wlad yma – sŵn pobl yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Cewch fyw i weld y peth yn digwydd! “Pan fyddi di’n dweud hyn i gyd wrth y bobl, byddan nhw’n siŵr o ofyn i ti, ‘Pam mae’r ARGLWYDD yn bygwth gwneud y pethau ofnadwy yma i ni? Beth ydyn ni wedi’i wneud o’i le? Sut ydyn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’ Dwed di wrthyn nhw mai dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod eich hynafiaid chi wedi troi cefn arna i. Aethon nhw i addoli a gwasanaethu duwiau eraill, troi cefn arna i a gwrthod beth ddysgais i iddyn nhw. Ond dych chi’n waeth na’ch hynafiaid! Dych chi’n ystyfnig, yn dilyn y duedd ynoch chi i wneud drwg, ac wedi gwrthod gwrando arna i. Felly dw i’n mynd i’ch taflu chi allan o’r wlad yma, a’ch gyrru chi i wlad dych chi a’ch hynafiaid yn gwybod dim amdani. Byddwch chi’n addoli duwiau eraill yno, nos a dydd. Fydda i ddim yn teimlo’n sori drosoch chi!’”
Jeremeia 16:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf: “Paid â chymryd iti wraig; na fydded i ti feibion na merched yn y lle hwn. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y bechgyn a'r genethod a enir yn y lle hwn, ac am y mamau a'u dwg hwy a'r hynafiaid a'u cenhedla yn y wlad hon: ‘Byddant farw o angau dychrynllyd. Ni fydd galaru ar eu hôl ac ni chleddir hwy; byddant fel tail ar wyneb y tir. Fe'u lleddir gan gleddyf a newyn, a bydd eu celanedd yn ymborth i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.’ Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Paid â mynd i dŷ galar, na mynd i alaru na chydymdeimlo, oherwydd cymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a hefyd fy nghariad a'm tosturi. Byddant farw, yn fawr a bach, yn y wlad hon; ni chleddir mohonynt ac ni alerir amdanynt; ni fyddant yn anafu eu cyrff nac yn eillio'u pennau o'u plegid. Ni rennir bara galar i roi cysur iddynt am y marw, ac nid estynnir cwpan cysur am na thad na mam. Ac nid ei di i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwy i fwyta ac yfed.’ ” “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:” “Yn y lle hwn, o flaen eich llygaid ac yn eich dyddiau, rwyf yn rhoi taw ar seiniau llawenydd a hapusrwydd, ar lais priodfab a phriodferch.” “Pan fynegi'r holl eiriau hyn i'r bobl, dywedant wrthyt, ‘Pam y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg mawr hwn yn ein herbyn? Beth yw ein trosedd? Pa bechod a wnaethom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’ Dywed dithau wrthynt, ‘Oherwydd i'ch hynafiaid fy ngadael i,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a rhodio ar ôl duwiau eraill, a'u gwasanaethu a'u haddoli, a'm gwrthod i, heb gadw fy nghyfraith. A gwnaethoch chwi yn waeth na'ch hynafiaid, gan rodio bob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus, heb wrando arnaf fi. Am hynny, fe'ch hyrddiaf chwi allan o'r wlad hon i wlad nad adwaenoch chwi na'ch hynafiaid; yno gwasanaethwch dduwiau eraill, ddydd a nos, oherwydd ni wnaf unrhyw ffafr â chwi.’
Jeremeia 16:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gair yr ARGLWYDD a ddaeth hefyd ataf fi, gan ddywedyd, Na chymer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mamau a’u dug hwynt, ac am eu tadau a’u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon; O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr ARGLWYDD, sef trugaredd a thosturi. A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt. Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam. Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed. Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o’r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi. A phan ddangosech i’r bobl yma yr holl eiriau hyn, ac iddynt hwythau ddywedyd wrthyt, Am ba beth y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl fawr ddrwg hyn i’n herbyn ni? neu, Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr ARGLWYDD ein DUW? Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i’ch tadau fy ngadael i, medd yr ARGLWYDD, a myned ar ôl duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a’m gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith; A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf; Am hynny mi a’ch taflaf chwi o’r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na’ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ffafr.