Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 10:1-25

Jeremeia 10:1-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Bobl Israel, gwrandwch beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi: “Peidiwch gwneud yr un fath â’r gwledydd paganaidd. Peidiwch cymryd sylw o ‘arwyddion’ y sêr a’r planedau, a gadael i bethau felly eich dychryn chi, fel maen nhw’n dychryn y gwledydd hynny. Dydy arferion paganaidd felly yn dda i ddim! Mae coeden yn cael ei thorri i lawr yn y goedwig, ac mae cerfiwr yn gwneud eilun ohoni gyda chŷn. Wedyn mae’n ei addurno gydag arian ac aur, ac yn defnyddio morthwyl a hoelion i’w ddal yn ei le, rhag iddo syrthio! Mae’r eilunod yma fel bwganod brain mewn gardd lysiau. Allan nhw ddim siarad; allan nhw ddim cerdded, felly mae’n rhaid eu cario nhw i bobman. Peidiwch bod â’u hofn nhw – allan nhw wneud dim niwed i chi, na gwneud dim i’ch helpu chi chwaith!” “O ARGLWYDD, does dim un ohonyn nhw’n debyg i ti. Ti ydy’r Duw mawr, sy’n enwog am dy fod mor bwerus! Ti ydy Brenin y cenhedloedd, felly dylai pawb dy addoli di – dyna wyt ti’n ei haeddu! Dydy pobl fwya doeth y gwledydd i gyd a’r teyrnasoedd yn ddim byd tebyg i ti. Pobl wyllt a dwl ydyn nhw, yn meddwl y gall eilun pren eu dysgu nhw! Maen nhw’n dod ag arian wedi’i guro o Tarshish, ac aur pur o Wffas, i orchuddio’r delwau. Dim ond gwaith llaw cerfiwr a gof aur ydy’r rheiny; a’u dillad glas a phorffor yn waith teiliwr medrus! Yr ARGLWYDD ydy’r unig Dduw go iawn – y Duw byw, sy’n frenin am byth! Pan mae e’n ddig mae’r ddaear yn crynu. Mae’r cenhedloedd yn cuddio oddi wrth ei ddicter.” (Dylech ddweud wrth y cenhedloedd: “Wnaeth y ‘duwiau’ yma ddim creu’r nefoedd a’r ddaear. Byddan nhw i gyd yn diflannu – fydd dim sôn amdanyn nhw yn unman!”) Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu’r ddaear. Fe ydy’r un osododd y byd yn ei le drwy ei ddoethineb, a lledu’r awyr drwy ei ddeall. Mae sŵn ei lais yn gwneud i’r awyr daranu. Mae’n gwneud i gymylau ddod i’r golwg ar y gorwel. Mae’n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw. Mae’n dod â’r gwynt allan o’i stordai i chwythu. Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw’n gwybod dim byd! Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a’u gwnaeth nhw. Duwiau ffals ydy’r delwau; does dim bywyd ynddyn nhw. Dŷn nhw’n dda i ddim! Pethau i wneud sbort am eu pennau! Mae’r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a’u dinistrio. Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw. Fe ydy’r un wnaeth greu pob peth, ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo. Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw! Mae’r gelyn o’ch cwmpas yn gwarchae, felly heliwch eich pac yn barod i fynd! Ie, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i’n mynd i daflu’r bobl allan o’r wlad yma, nawr! Maen nhw’n mynd i fod mewn helbul go iawn, a byddan nhw’n teimlo’r peth i’r byw. Meddai Jerwsalem, “Mae ar ben arna i! Dw i wedi fy anafu’n ddifrifol. Rôn i’n arfer meddwl, ‘Salwch ydy e a bydda i’n dod drosto.’ Mae fy mhabell wedi’i dryllio, a’r rhaffau i gyd wedi’u torri. Mae fy mhlant wedi mynd, a fyddan nhw ddim yn dod yn ôl. Does neb ar ôl i godi’r babell eto, nac i hongian y llenni tu mewn iddi. Mae’r arweinwyr wedi bod mor ddwl! Dŷn nhw ddim wedi gofyn i’r ARGLWYDD am arweiniad. Maen nhw wedi methu’n llwyr, ac mae eu praidd nhw wedi’u gyrru ar chwâl. Gwrandwch! Mae’r si ar led! Mae’n dod! Sŵn twrw’r fyddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae’n dod i droi trefi Jwda yn rwbel, ac yn lle i siacaliaid fyw. ARGLWYDD, dw i’n gwybod na all pobl reoli eu bywydau. Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy’n mynd i ddigwydd. Felly, ARGLWYDD, cywira ni, ond paid bod yn rhy galed. Paid gwylltio, neu fydd dim ohonon ni ar ôl. Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy nabod, a’r llwythau hynny sydd ddim yn dy addoli. Nhw ydy’r rhai sydd wedi llarpio pobl Jacob – wedi’u dinistrio nhw’n llwyr a gadael y wlad yn adfeilion.”

Jeremeia 10:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, dŷ Israel. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd, na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd, fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt. Y mae arferion y bobloedd fel eilun— pren wedi ei gymynu o'r goedwig, gwaith dwylo saer â bwyell; ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur, y maent yn ei sicrhau â morthwyl a hoelion, rhag iddo symud. Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith.” Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt, mawr yw dy enw mewn nerth. Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd? Hyn sy'n gweddu i ti. Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi. Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd, wedi eu dysgu gan eilunod o bren! Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y saer a dwylo'r eurych; a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor— gwaith crefftwyr ydyw i gyd. Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw; ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol; y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid, ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter. Fel hyn y dywedwch wrthynt: “Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe gânt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd.” Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth, sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall. Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear. Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai. Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt. Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio; yn amser eu cosbi fe'u difethir. Nid yw Duw Jacob fel y rhain, oherwydd ef yw lluniwr pob peth, ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. Casgla dy bwn a dos allan o'r wlad, ti, yr hon sy'n trigo dan warchae. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Dyma fi'n taflu allan drigolion y wlad y tro hwn; dygaf arnynt gyfyngder, ac fe deimlant hynny.” Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn, ond dywedais, “Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef.” Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd; aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy; nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni. Aeth y bugeiliaid yn ynfyd; nid ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD; am hynny nid ydynt yn llwyddo, ac y mae eu holl braidd ar wasgar. Clyw! Neges! Wele, y mae'n dod! Cynnwrf mawr o dir y gogledd, i wneud dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch ac yn drigfa bleiddiaid. Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd; ni pherthyn i'r teithiwr drefnu ei gamre. Cosba fi, ARGLWYDD, ond mewn barn, nid yn ôl dy lid, rhag iti fy niddymu. Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod, ac ar y teuluoedd nad ydynt yn galw ar dy enw. Canys y maent wedi bwyta Jacob, ei fwyta a'i ddifetha, ac wedi difodi ei drigfan.

Jeremeia 10:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwrandewch y gair a ddywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, tŷ Israel: Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd, ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy. Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o’r coed, gwaith llaw y saer, â bwyell. Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo. Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt. Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, ARGLWYDD: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid. Pwy ni’th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi. Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff. Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo’r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll. Eithr yr ARGLWYDD ydyw y gwir DDUW, efe yw y DUW byw, a’r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef. Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd. Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr. Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda’r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau. Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt. Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt. Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw. Casgl o’r tir dy farsiandïaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly. Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a’i dygaf. Fy mhabell i a anrheithiwyd, a’m rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni. Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr ARGLWYDD: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir. Wele, trwst y sôn a ddaeth, a chynnwrf mawr o dir y gogledd, i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch, ac yn drigfan dreigiau. Gwn, ARGLWYDD, nad eiddo dyn ei ffordd: nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad. Cosba fi, ARGLWYDD, eto mewn barn; nid yn dy lid, rhag i ti fy ngwneuthur yn ddiddim. Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw: canys bwytasant Jacob, ie, bwytasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithiasant ei gyfannedd.