Jeremeia 1:17-19
Jeremeia 1:17-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ond ti, Jeremeia, bydd di’n barod. Dos, a dweud wrthyn nhw bopeth dw i’n ddweud wrthot ti. Paid bod â’u hofn nhw, neu bydda i’n dy ddychryn di o’u blaenau nhw. Ond heddiw dw i’n dy wneud di fel tref gaerog, neu fel colofn haearn neu wal bres. Byddi’n gwneud safiad yn erbyn y wlad i gyd, yn erbyn brenhinoedd Jwda, ei swyddogion, ei hoffeiriaid a’i phobl. Byddan nhw’n trio dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda ti yn edrych ar dy ôl,” meddai’r ARGLWYDD.
Jeremeia 1:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Torcha dithau dy wisg; cod a llefara wrthynt bob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag arswydo o'u hachos, rhag i mi dy ddistrywio di o'u blaen. A rhof finnau di heddiw yn ddinas gaerog, yn golofn haearn ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda a'i thywysogion, ei hoffeiriaid a phobl y wlad. Ymladdant yn dy erbyn, ond ni'th orchfygant oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD.
Jeremeia 1:17-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny gwregysa dy lwynau, a chyfod, a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti: na arswyda eu hwynebau, rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt. Canys wele, heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog, ac yn golofn haearn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda, yn erbyn ei thywysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tir. Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared, medd yr ARGLWYDD.