Barnwyr 2:10-15
Barnwyr 2:10-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd y genhedlaeth yna i gyd wedi mynd, daeth cenhedlaeth ar eu holau oedd ddim wedi cael profiad personol o’r ARGLWYDD nac wedi gweld drostyn nhw eu hunain beth wnaeth e dros Israel. Yna dyma bobl Israel yn gwneud rhywbeth gwirioneddol ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: addoli delwau o Baal. Dyma nhw’n troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, wnaeth eu hachub nhw o wlad yr Aifft, a dechrau addoli duwiau’r bobloedd o’u cwmpas. Roedd Duw wedi digio go iawn! Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, a dechrau addoli Baal a’r delwau o’r dduwies Ashtart. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! Dyma fe’n gadael i ladron ddwyn oddi arnyn nhw. Roedd y gelynion o’u cwmpas nhw yn gallu gwneud beth fynnen nhw! Doedden nhw’n gallu gwneud dim i’w rhwystro. Pan oedd Israel yn mynd allan i ymladd, roedd yr ARGLWYDD yn eu herbyn nhw! Roedd e wedi rhybuddio mai dyna fyddai’n ei wneud. Roedd hi’n argyfwng go iawn arnyn nhw.
Barnwyr 2:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Casglwyd yr holl genhedlaeth honno at eu hynafiaid, a chododd cenhedlaeth arall ar eu hôl, nad oedd yn adnabod yr ARGLWYDD na chwaith yn gwybod am yr hyn a wnaeth dros Israel. ARGLWYDD Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; aethant i addoli'r Baalim, gan adael yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a'u dygodd allan o wlad yr Aifft, a mynd ar ôl duwiau estron o blith duwiau'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, ac ymgrymu iddynt hwy, a digio'r ARGLWYDD. Gadawsant yr ARGLWYDD ac addoli Baal ac Astaroth. Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a rhoddodd hwy yn llaw rhai a fu'n eu hanrheithio, a gwerthodd hwy i law eu gelynion oddi amgylch, fel nad oeddent bellach yn medru gwrthsefyll eu gelynion. I ble bynnag yr aent, yr oedd llaw yr ARGLWYDD yn eu herbyn er drwg, fel yr oedd wedi addo a thyngu iddynt. Ac aeth yn gyfyng iawn arnynt.
Barnwyr 2:10-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr ARGLWYDD, na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel. A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim: Ac a wrthodasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o’u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr ARGLWYDD. A hwy a wrthodasant yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth. A llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion. I ba le bynnag yr aethant, llaw yr ARGLWYDD oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr ARGLWYDD, ac fel y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.