Barnwyr 16:30
Barnwyr 16:30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Gad i mi farw gyda’r Philistiaid!” gwaeddodd. Roedd yn gwthio mor galed ag y medrai, a dyma’r adeilad yn syrthio ar ben arweinwyr y Philistiaid a phawb arall oedd y tu mewn. Lladdodd Samson fwy o Philistiaid pan fuodd e farw nag yn ystod gweddill ei fywyd i gyd!
Rhanna
Darllen Barnwyr 16Barnwyr 16:30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd, “Bydded i minnau farw gyda'r Philistiaid!” Gwthiodd yn nerthol, a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a'r holl bobl oedd ynddi, ac felly lladdodd Samson fwy wrth farw nag a laddodd yn ystod ei fywyd.
Rhanna
Darllen Barnwyr 16Barnwyr 16:30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Samson, Bydded farw fy einioes gyda’r Philistiaid. Ac efe a ymgrymodd â’i holl nerth; a syrthiodd y tŷ ar y pendefigion, ac ar yr holl bobl oedd ynddo: a’r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd.
Rhanna
Darllen Barnwyr 16