Barnwyr 16:1-31
Barnwyr 16:1-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth Samson i Gasa. Yno gwelodd butain, ac aeth i gael rhyw gyda hi. Dyma bobl Gasa yn darganfod ei fod yno. Felly dyma nhw’n amgylchynu’r dref ac yn disgwyl amdano wrth y giatiau. Wnaethon nhw ddim mwy drwy’r nos, gan feddwl, “Lladdwn ni e pan fydd hi’n goleuo yn y bore!” Ond wnaeth Samson ddim aros drwy’r nos. Cododd ganol nos a gadael. Pan ddaeth at giatiau’r dref, tynnodd y drysau, y ddau bostyn a’r barrau a’r cwbl. Cododd nhw ar ei gefn, a’u cario i ben y bryn sydd i’r dwyrain o Hebron. Rywbryd wedyn, dyma Samson yn syrthio mewn cariad hefo gwraig o Ddyffryn Sorec, o’r enw Delila. Dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd ati, a dweud, “Os gwnei di ei berswadio fe i ddweud wrthot ti pam mae e mor gryf, a sut y gallen ni ei ddal a’i gam-drin, cei fil a chant o ddarnau arian gan bob un ohonon ni.” Felly dyma Delila’n gofyn i Samson, “Beth sy’n dy wneud di mor gryf? Sut allai rhywun dy rwymo di a dy drechu di?” A dyma Samson yn ateb, “Petawn i’n cael fy rhwymo gyda saith llinyn bwa saeth newydd, byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.” Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn rhoi saith llinyn bwa saeth newydd iddi, i rwymo Samson gyda nhw. Pan oedd y dynion yn cuddio yn yr ystafell, dyma Delila’n gweiddi, “Mae’r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe’n torri’r llinynnau bwa fel petaen nhw’n edau oedd wedi bod yn agos i dân. Doedden nhw ddim wedi darganfod y gyfrinach pam oedd e mor gryf. Dyma Delila’n dweud wrth Samson, “Ti’n chwarae triciau ac wedi dweud celwydd wrtho i! Tyrd, dywed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.” A dyma fe’n dweud wrthi, “Petawn i’n cael fy rhwymo gyda rhaffau newydd sbon, sydd erioed wedi cael eu defnyddio o’r blaen, byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.” Felly dyma Delila’n rhwymo Samson gyda rhaffau newydd sbon. Yna dyma hi’n gweiddi, “Mae’r Philistiaid yma, Samson!” (Roedd y Philistiaid yn cuddio yn yr ystafell.) Ond dyma fe’n torri’r rhaffau fel petaen nhw’n ddim ond edau! Meddai Delila wrth Samson, “Ti’n gwneud dim byd ond chwarae triciau a dweud celwydd wrtho i! Dwed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.” A dyma fe’n dweud wrthi, “Taset ti’n gweu fy ngwallt i – y saith plethen – i mewn i’r brethyn ar ffrâm wau, a’i chloi gyda’r pìn, byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.” Felly tra oedd e’n cysgu, dyma hi’n cymryd ei saith plethen e, eu gweu nhw i mewn i’r brethyn ar y ffrâm wau, a’i chloi gyda pìn. Wedyn gweiddi, “Mae’r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe’n deffro, ac yn rhwygo’r pìn allan o’r ffrâm a’i wallt o’r brethyn. A dyma Delila’n dweud wrtho, “Sut wyt ti’n gallu dweud ‘Dw i’n dy garu di,’ os wyt ti ddim yn trystio fi? Rwyt ti wedi bod yn chwarae triciau dair gwaith ac wedi gwrthod dweud wrtho i beth sy’n dy wneud di mor gryf.” Roedd hi’n dal ati i swnian a swnian ddydd ar ôl dydd, nes roedd Samson wedi cael llond bol. A dyma fe’n dweud popeth wrthi. “Dw i erioed wedi cael torri fy ngwallt. Ces fy rhoi yn Nasaread i Dduw cyn i mi gael fy ngeni. Petai fy ngwallt yn cael ei dorri, byddwn yn colli fy nghryfder. Byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.” Pan sylweddolodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach wrthi, dyma hi’n anfon am arweinwyr y Philistiaid. Ac meddai wrthyn nhw, “Dewch yn ôl, mae e wedi dweud wrtho i beth ydy’r gyfrinach.” Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd yn ôl ati, a’r arian i’w thalu hi gyda nhw. Dyma Delila’n cael Samson i gysgu, a’i ben ar ei gliniau. Yna dyma hi’n galw dyn draw i dorri’i wallt i gyd i ffwrdd – y saith plethen. A dyna ddechrau’r cam-drin. Roedd ei gryfder i gyd wedi mynd. Dyma hi’n gweiddi, “Mae’r Philistiaid yma, Samson!” A dyma fe’n deffro, gan feddwl, “Gwna i yr un peth ag o’r blaen, a chael fy hun yn rhydd.” (Doedd e ddim yn sylweddoli fod yr ARGLWYDD wedi’i adael e.) Dyma’r Philistiaid yn ei ddal a thynnu’i lygaid allan. Yna dyma nhw’n mynd ag e i’r carchar yn Gasa. Yno, dyma nhw’n rhoi cadwyni pres arno a gwneud iddo falu ŷd. Ond cyn hir roedd ei wallt yn dechrau tyfu eto. Roedd arweinwyr y Philistiaid wedi dod at ei gilydd i ddathlu a chyflwyno aberthau i’w duw, Dagon. Roedden nhw’n siantio, “Ein duw ni, Dagon – mae wedi rhoi Samson ein gelyn, yn ein gafael!” Roedd y bobl i gyd yn edrych ar eu duw ac yn ei foli. “Mae’n duw ni wedi rhoi’n gelyn yn ein gafael; yr un oedd wedi dinistrio’n gwlad, a lladd cymaint ohonon ni.” Yna, pan oedd y parti’n dechrau mynd yn wyllt, dyma nhw’n gweiddi, “Dewch â Samson yma i ni gael ychydig o adloniant!” Felly dyma nhw’n galw am Samson o’r carchar, i roi sioe iddyn nhw. A dyma nhw’n ei osod i sefyll rhwng dau o’r pileri. Dyma Samson yn dweud wrth y bachgen oedd yn ei dywys, “Gad i mi deimlo pileri’r deml, i mi gael pwyso arnyn nhw.” Roedd y deml yn orlawn o bobl, ac roedd arweinwyr y Philistiaid i gyd yno. Roedd tair mil o bobl ar y to yn gwylio Samson ac yn gwneud hwyl am ei ben. A dyma Samson yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O Feistr, ARGLWYDD, cofia amdana i! Gwna fi’n gryf dim ond un waith eto, O Dduw. Gad i mi daro’r Philistiaid un tro olaf, a dial arnyn nhw am dynnu fy llygaid i!” Yna dyma fe’n rhoi’i ddwylo ar y ddau biler oedd yn cynnal to’r deml, a gwthio, un gyda’r llaw dde a’r llall gyda’r chwith. “Gad i mi farw gyda’r Philistiaid!” gwaeddodd. Roedd yn gwthio mor galed ag y medrai, a dyma’r adeilad yn syrthio ar ben arweinwyr y Philistiaid a phawb arall oedd y tu mewn. Lladdodd Samson fwy o Philistiaid pan fuodd e farw nag yn ystod gweddill ei fywyd i gyd! Aeth ei frodyr a’r teulu i gyd i lawr i Gasa i nôl ei gorff. A dyma nhw’n ei gladdu ym medd ei dad, oedd rhwng Sora ac Eshtaol. Roedd Samson wedi arwain pobl Israel am ugain mlynedd.
Barnwyr 16:1-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan aeth Samson i Gasa, gwelodd yno butain ac aeth i mewn ati. Clywodd pobl Gasa fod Samson yno, a daethant at ei gilydd a disgwyl amdano drwy'r nos wrth borth y dref heb wneud unrhyw symudiad, gan feddwl, “Pan ddaw'n olau ddydd, fe'i lladdwn.” Gorweddodd Samson hyd hanner nos; yna cododd a gafael yn nwy ddôr a dau gilbost porth y dref, a'u codi o'u lle, ynghyd â'r bar. Ac wedi eu gosod ar ei ysgwyddau, fe'u cariodd i gopa'r mynydd gyferbyn â Hebron. Ar ôl hyn, syrthiodd mewn cariad â dynes yn nyffryn Sorec, o'r enw Delila. Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati a dweud wrthi, “Huda ef, i gael gweld ymhle y mae ei nerth mawr, a pha fodd y gallwn ei drechu a'i rwymo a'i gadw'n gaeth. Yna fe rydd pob un ohonom iti un cant ar ddeg o ddarnau arian.” Dywedodd Delila wrth Samson, “Dywed i mi ymhle y mae dy nerth mawr, a sut y gellir dy rwymo i'th gadw'n gaeth?” Dywedodd Samson wrthi, “Petaent yn fy rhwymo â saith llinyn bwa ir heb sychu, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.” Daeth arglwyddi'r Philistiaid â saith llinyn bwa ir heb sychu iddi, a rhwymodd hithau ef â hwy. Tra oedd gwylwyr cudd yn disgwyl mewn ystafell fewnol, dywedodd hi wrtho, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Torrodd yntau y llinynnau, fel y torrir edau garth pan ddaw'n agos at dân. Ni ddatgelwyd cyfrinach ei gryfder. Ac meddai Delila wrth Samson, “Dyma ti wedi gwneud ffŵl ohonof a dweud celwydd wrthyf; yn awr dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di.” Dywedodd yntau, “Pe rhwyment fi â rhaffau newydd heb fod erioed ar waith, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.” Felly cymerodd Delila raffau newydd a'i rwymo â hwy, a dweud, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” A thra oedd y gwylwyr yn parhau yn yr ystafell fewnol, torrodd ef y rhaffau oddi ar ei freichiau fel edau. Ac meddai Delila wrth Samson, “Hyd yn hyn yr wyt wedi gwneud ffŵl ohonof a dweud celwydd wrthyf; dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di.” Dywedodd wrthi, “Pe baet yn gwau saith cudyn fy mhen i'r we, ac yn ei thynhau â'r hoelen, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.” Felly suodd Delila ef i gysgu, a gweodd saith cudyn ei ben i mewn i'r we, a'i thynhau â'r hoelen. Yna dywedodd wrtho, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Deffrôdd yntau o'i gwsg, a thynnodd yn rhydd yr hoelen, y garfan a'r we. Ac meddai hi wrtho, “Sut y medri di ddweud, ‘Rwy'n dy garu’, a thithau heb ymddiried ynof? Y tair gwaith hyn yr wyt wedi gwneud ffŵl ohonof, a heb ddweud wrthyf yn iawn ymhle y mae dy nerth mawr.” Ac oherwydd ei bod yn ei flino â'i geiriau, ddydd ar ôl dydd, ac yn dal i'w boeni nes ei fod wedi ymlâdd, fe ddywedodd ei gyfrinach yn llawn wrthi. Dywedodd, “Nid yw ellyn erioed wedi cyffwrdd â'm pen, oherwydd bûm yn Nasaread i Dduw o groth fy mam. Petaent yn fy eillio, yna byddai fy nerth yn pallu ac mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.” Gwelodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach yn llawn wrthi, ac anfonodd am arglwyddi'r Philistiaid a dweud, “Dewch ar unwaith; y mae wedi dweud ei gyfrinach yn llawn wrthyf.” Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati â'r arian yn eu llaw. Suodd hi Samson i gysgu ar ei gliniau, ac yna galwodd am ddyn i eillio saith cudyn ei ben. Dechreuodd ei gystwyo, ac yr oedd ei nerth wedi cilio rhagddo. Dywedodd, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Deffrôdd ef o'i gwsg gan feddwl, “Af allan fel o'r blaen ac ymryddhau.” Ni wyddai fod yr ARGLWYDD wedi cefnu arno. Daliodd y Philistiaid ef, a thynnu ei lygaid, a mynd ag ef i lawr i Gasa a'i rwymo mewn gefynnau; a bu'n malu blawd yn y carchardy. Ond dechreuodd ei wallt dyfu eto ar ôl ei eillio. Daeth arglwyddi'r Philistiaid ynghyd mewn llawenydd i offrymu aberth mawr i'w duw Dagon a dweud: “Rhoddodd ein duw yn ein dwylo ein gelyn Samson.” A phan welodd y bobl ef, rhoesant foliant i'w duw a dweud: “Rhoddodd ein duw yn ein dwylo ein gelyn ac anrheithiwr ein gwlad, a amlhaodd ein celaneddau.” Pan oeddent yn llawn hwyliau dywedasant, “Galwch Samson i'n difyrru.” Galwyd Samson o'r carchardy, a gwnaeth hwyl iddynt; a rhoddwyd ef i sefyll rhwng y colofnau. Dywedodd Samson wrth y bachgen oedd yn gafael yn ei law, “Rho fi lle y gallaf deimlo'r colofnau sy'n cynnal y deml, imi gael pwyso arnynt.” Yr oedd y deml yn llawn o ddynion a merched; yr oedd holl arglwyddi'r Philistiaid yno hefyd, a thua thair mil o bobl ar y to yn edrych ar Samson yn eu difyrru. Yna galwodd Samson ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd DDUW, cofia fi, a nertha fi'r tro hwn yn unig, O Dduw, er mwyn imi gael dial unwaith am byth ar y Philistiaid am fy nau lygad.” Ymestynnodd Samson at y ddwy golofn ganol oedd yn cynnal y deml, a phwyso arnynt, ei law dde ar un a'i law chwith ar y llall. Yna dywedodd, “Bydded i minnau farw gyda'r Philistiaid!” Gwthiodd yn nerthol, a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a'r holl bobl oedd ynddi, ac felly lladdodd Samson fwy wrth farw nag a laddodd yn ystod ei fywyd. Aeth ei frodyr a'i holl deulu i lawr i'w gymryd ef a'i gludo oddi yno, a'i gladdu rhwng Sora ac Estaol ym medd ei dad Manoa. Bu'n farnwr ar Israel am ugain mlynedd.
Barnwyr 16:1-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna Samson a aeth i Gasa; ac a ganfu yno buteinwraig, ac a aeth i mewn ati hi. A mynegwyd i’r Gasiaid, gan ddywedyd, Daeth Samson yma. A hwy a gylchynasant, ac a gynllwynasant iddo, ar hyd y nos, ym mhorth y ddinas; ac a fuant ddistaw ar hyd y nos, gan ddywedyd, Y bore pan oleuo hi, ni a’i lladdwn ef. A Samson a orweddodd hyd hanner nos; ac a gyfododd ar hanner nos, ac a ymaflodd yn nrysau porth y ddinas, ac yn y ddau bost, ac a aeth ymaith â hwynt ynghyd â’r bar, ac a’u gosododd ar ei ysgwyddau, ac a’u dug hwynt i fyny i ben bryn sydd gyferbyn â Hebron. Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec, a’i henw Dalila. Ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny ati hi, ac a ddywedasant wrthi, Huda ef, ac edrych ym mha le y mae ei fawr nerth ef, a pha fodd y gorthrechwn ef, fel y rhwymom ef i’w gystuddio: ac ni a roddwn i ti bob un fil a chant o arian. A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Mynega i mi, atolwg, ym mha fan y mae dy fawr nerth di, ac â pha beth y’th rwymid i’th gystuddio. A Samson a ddywedodd wrthi, Pe rhwyment fi â saith o wdyn irion, y rhai ni sychasai; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall. Yna arglwyddi’r Philistiaid a ddygasant i fyny ati hi saith o wdyn irion, y rhai ni sychasent; a hi a’i rhwymodd ef â hwynt. (A chynllwynwyr oedd yn aros ganddi mewn ystafell.) A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a dorrodd y gwdyn, fel y torrir edau garth wedi cyffwrdd â’r tân: felly ni wybuwyd ei gryfder ef. A dywedodd Dalila wrth Samson, Ti a’m twyllaist, ac a ddywedaist gelwydd wrthyf: yn awr mynega i mi, atolwg, â pha beth y gellid dy rwymo. Ac efe a ddywedodd wrthi, Pe gan rwymo y rhwyment fi â rhaffau newyddion, y rhai ni wnaethpwyd gwaith â hwynt; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall. Am hynny Dalila a gymerth raffau newyddion, ac a’i rhwymodd ef â hwynt; ac a ddywedodd wrtho, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. (Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn ystafell.) Ac efe a’u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau. A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Hyd yn hyn y twyllaist fi, ac y dywedaist gelwydd wrthyf: mynega i mi, â pha beth y’th rwymid. Dywedodd yntau wrthi hi, Pe plethit ti saith gudyn fy mhen ynghyd â’r we. A hi a’i gwnaeth yn sicr â’r hoel; ac a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg, ac a aeth ymaith â hoel y garfan, ac â’r we. A hi a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd y dywedi, Cu gennyf dydi, a’th galon heb fod gyda mi? Teirgwaith bellach y’m twyllaist, ac ni fynegaist i mi ym mha fan y mae dy fawr nerth. Ac oherwydd ei bod hi yn ei flino ef â’i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef, ei enaid a ymofidiodd i farw: Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon; ac a ddywedodd wrthi, Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i: canys Nasaread i DDUW ydwyf fi o groth fy mam. Ped eillid fi, yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf, ac y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall. A phan welodd Dalila fynegi ohono ef iddi hi ei holl galon, hi a anfonodd ac a alwodd am bendefigion y Philistiaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny unwaith; canys efe a fynegodd i mi ei holl galon. Yna arglwyddi’r Philistiaid a ddaethant i fyny ati hi, ac a ddygasant arian yn eu dwylo. A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau; ac a alwodd ar ŵr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef: a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef; a’i nerth a ymadawodd oddi wrtho. A hi a ddywedodd, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg, ac a ddywedodd, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf. Ond ni wyddai efe fod yr ARGLWYDD wedi cilio oddi wrtho. Ond y Philistiaid a’i daliasant ef, ac a dynasant ei lygaid ef, ac a’i dygasant ef i waered i Gasa, ac a’i rhwymasant ef â gefynnau pres; ac yr oedd efe yn malu yn y carchardy. Eithr gwallt ei ben ef a ddechreuodd dyfu drachefn, ar ôl ei eillio. Yna arglwyddi’r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni. A phan welodd y bobl ef, hwy a ganmolasant eu duw: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylo ni, yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni, yr hwn a laddodd lawer ohonom ni. A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, Gelwch am Samson, i beri i ni chwerthin. A hwy a alwasant am Samson o’r carchardy, fel y chwaraeai o’u blaen hwynt; a hwy a’i gosodasant ef rhwng y colofnau. A Samson a ddywedodd wrth y llanc oedd yn ymaflyd yn ei law ef, Gollwng, a gad i mi gael gafael ar y colofnau y mae y tŷ yn sefyll arnynt, fel y pwyswyf arnynt. A’r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd; a holl arglwyddi’r Philistiaid oedd yno: ac ar y nen yr oedd ynghylch tair mil o wŷr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwarae. A Samson a alwodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O Arglwydd IÔR, cofia fi, atolwg, a nertha fi, atolwg, yn unig y waith hon, O DDUW, fel y dialwyf ag un dialedd ar y Philistiaid am fy nau lygad. A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol, y rhai yr oedd y tŷ yn sefyll arnynt, ac a ymgynhaliodd wrthynt, un yn ei ddeheulaw, a’r llall yn ei law aswy. A dywedodd Samson, Bydded farw fy einioes gyda’r Philistiaid. Ac efe a ymgrymodd â’i holl nerth; a syrthiodd y tŷ ar y pendefigion, ac ar yr holl bobl oedd ynddo: a’r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd. A’i frodyr ef, a holl dŷ ei dad ef, a ddaethant i waered, ac a’i cymerasant ef, ac a’i dygasant i fyny, ac a’i claddasant ef rhwng Sora ac Estaol, ym meddrod Manoa ei dad. Ac efe a farnasai Israel ugain mlynedd.