Barnwyr 13:1-25
Barnwyr 13:1-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly gadawodd yr ARGLWYDD i’r Philistiaid eu rheoli nhw am bedwar deg o flynyddoedd. Bryd hynny, roedd dyn o’r enw Manoa, o lwyth Dan, yn byw yn Sora. Doedd gwraig Manoa ddim yn gallu cael plant. Un diwrnod, dyma angel yr ARGLWYDD yn rhoi neges iddi, “Er dy fod ti wedi methu cael plant hyd yn hyn, ti’n mynd i feichiogi a byddi’n cael mab. Bydd yn ofalus! Paid yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol arall, na bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di’n aflan. Wir i ti, rwyt ti’n mynd i feichiogi a chael mab. Ond rhaid i ti beidio torri ei wallt, am fod y plentyn i gael ei gysegru’n Nasaread i’r ARGLWYDD o’r eiliad mae’n cael ei eni. Bydd yn mynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.” Aeth i ddweud wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd. “Mae dyn wedi dod ata i oddi wrth Dduw. Roedd fel angel Duw – yn ddigon i godi braw arna i! Wnes i ddim gofyn iddo o ble roedd e’n dod, a wnaeth e ddim dweud ei enw. Dwedodd wrtho i, ‘Ti’n mynd i fod yn feichiog a byddi’n cael mab. Felly, paid yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol arall, a phaid bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di’n aflan. Bydd y plentyn wedi’i gysegru yn Nasaread i Dduw o’i eni i’w farw.’” Yna dyma Manoa’n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “Meistr, plîs gad i’r dyn wnest ti ei anfon ddod aton ni eto, iddo ddysgu i ni beth i’w wneud gyda’r bachgen fydd yn cael ei eni.” A dyma Duw yn ateb ei weddi. Dyma’r angel yn dod at wraig Manoa eto. Roedd hi’n eistedd yn y cae ar ei phen ei hun – doedd Manoa ei gŵr ddim gyda hi. Felly dyma hi’n rhedeg ar unwaith i ddweud wrtho, “Tyrd, mae e wedi dod yn ôl! Y dyn ddaeth ata i y diwrnod o’r blaen. Mae e yma!” Dyma Manoa’n mynd yn ôl gyda’i wraig, a dyma fe’n gofyn i’r dyn, “Ai ti ydy’r dyn sydd wedi bod yn siarad gyda’m gwraig i?” “Ie, fi ydy e,” meddai wrtho. Wedyn dyma Manoa’n gofyn iddo, “Pan fydd dy eiriau’n dod yn wir, sut ddylen ni fagu’r plentyn, a beth fydd e’n wneud?” A dyma’r angel yn dweud wrtho, “Rhaid i dy wraig wneud popeth ddwedais i wrthi. Rhaid iddi beidio bwyta grawnwin na rhesins, peidio yfed gwin na diod feddwol arall, a pheidio bwyta unrhyw fwyd fydd yn ei gwneud hi’n aflan. Rhaid iddi wneud popeth dw i wedi’i ddweud wrthi.” Yna dyma Manoa’n dweud, “Plîs wnei di aros am ychydig i ni baratoi pryd o fwyd i ti, gafr ifanc.” “Gwna i aros ond wna i ddim bwyta,” meddai’r angel. “Os wyt ti eisiau cyflwyno offrwm i’w losgi’n llwyr i’r ARGLWYDD, gelli wneud hynny.” (Doedd Manoa ddim yn sylweddoli mai angel yr ARGLWYDD oedd e.) Yna dyma Manoa’n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di? Pan fydd hyn i gyd yn dod yn wir, dŷn ni eisiau dy anrhydeddu di.” A dyma’r angel yn ateb, “Pam wyt ti’n gofyn am fy enw i? Mae e tu hwnt i dy ddeall di.” Dyma Manoa’n cymryd gafr ifanc ac offrwm o rawn, a’u gosod nhw ar garreg i’w cyflwyno i’r ARGLWYDD. A dyma angel yr ARGLWYDD yn gwneud rhywbeth anhygoel o flaen llygaid Manoa a’i wraig. Wrth i’r fflamau godi o’r allor, dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd i fyny yn y fflamau. Pan welodd Manoa a’i wraig hynny’n digwydd, dyma nhw’n plygu gyda’u hwynebau ar lawr. Wnaeth Manoa a’i wraig ddim gweld yr angel eto. A dyna pryd sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd e. A dyma fe’n dweud wrth ei wraig, “Dŷn ni’n siŵr o farw! Dŷn ni wedi gweld bod dwyfol!” Ond dyma’i wraig yn dweud, “Petai’r ARGLWYDD eisiau’n lladd ni, fyddai e ddim wedi derbyn yr offrwm i’w losgi a’r offrwm o rawn gynnon ni. A fyddai e ddim wedi dangos hyn i gyd i ni a siarad â ni fel y gwnaeth e.” Cafodd gwraig Manoa fab a dyma hi’n rhoi’r enw Samson iddo. Tyfodd y plentyn a dyma’r ARGLWYDD yn ei fendithio. Yna, pan oedd Samson yn aros yn Mahane-dan, rhwng Sora ac Eshtaol, dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dechrau’i aflonyddu.
Barnwyr 13:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw'r Philistiaid am ddeugain mlynedd. Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Manoa o Sora, o lwyth Dan, ac yr oedd ei wraig yn ddi-blant, heb eni yr un plentyn. Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD i'r wraig a dweud wrthi, “Dyma ti yn ddi-blant, heb eni plentyn, ond byddi'n beichiogi ac yn geni mab. Felly, gwylia rhag yfed gwin na diod gadarn, a phaid â bwyta dim aflan, gan dy fod yn mynd i feichiogi a geni mab; ac nid yw ellyn i gyffwrdd â'i ben, oherwydd y mae'r bachgen i fod yn Nasaread i Dduw o'r groth. Ef fydd yn dechrau gwaredu Israel o law'r Philistiaid.” Aeth y wraig at ei gŵr a dweud, “Daeth gŵr Duw ataf, a'i wedd fel angel Duw, yn frawychus iawn; ni ofynnais iddo o ble'r oedd, ac ni ddywedodd ei enw wrthyf. Fe ddywedodd wrthyf, ‘Byddi'n beichiogi ac yn geni mab; felly paid ag yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan, oherwydd bydd y bachgen yn Nasaread i Dduw o'r groth hyd ddydd ei farw.’ ” Gweddïodd Manoa ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd, os gweli'n dda, gad i'r gŵr Duw a anfonaist ddod yn ôl atom i'n cyfarwyddo beth i'w wneud i'r bachgen a enir.” Gwrandawodd Duw ar gais Manoa, a daeth angel Duw eto at y wraig, pan oedd hi'n eistedd allan yn y maes, a'i gŵr Manoa heb fod gyda hi. Rhedodd hithau ar unwaith a dweud wrth ei gŵr, “Y mae'r dyn a ddaeth ataf y diwrnod hwnnw wedi ymddangos eto.” Cododd Manoa a dilynodd ei wraig at y dyn a gofyn iddo, “Ai ti yw'r gŵr a fu'n siarad gyda'm gwraig?” Ac meddai yntau, “Ie.” Gofynnodd Manoa iddo, “Pan wireddir dy air, sut fachgen fydd ef, a beth fydd ei waith?” Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Manoa, “Rhaid i'th wraig ofalu am bopeth a ddywedais wrthi; nid yw hi i fwyta dim a ddaw o'r winwydden, nac i yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan. Y mae i gadw'r cwbl a orchmynnais iddi.” Yna dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr ydym am dy gadw yma nes y byddwn wedi paratoi myn gafr ar dy gyfer.” Ond atebodd angel yr ARGLWYDD ef, “Pe bait yn fy nghadw yma, ni fyddwn yn bwyta dy fwyd, ond os wyt am offrymu poethoffrwm, offryma ef i'r ARGLWYDD.” Ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD ydoedd, a gofynnodd iddo, “Beth yw d'enw, inni gael dy anrhydeddu pan wireddir dy air?” Atebodd angel yr ARGLWYDD, “Pam yr wyt ti'n holi fel hyn ynghylch fy enw? Y mae'n rhyfeddol!” Yna cymerodd Manoa'r myn gafr a'r bwydoffrwm, a'u hoffrymu i'r ARGLWYDD ar y graig, a digwyddodd rhyfeddod tra oedd Manoa a'i wraig yn edrych. Fel yr oedd y fflam yn codi oddi ar yr allor i'r awyr, esgynnodd angel yr ARGLWYDD yn fflam yr allor. Yr oedd Manoa a'i wraig yn edrych, a syrthiasant ar eu hwynebau ar lawr. Nid ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddynt mwyach, a sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd. Yna dywedodd Manoa wrth ei wraig, “Yr ydym yn sicr o farw am inni weld Duw.” Ond meddai hi wrtho, “Pe byddai'r ARGLWYDD wedi dymuno ein lladd, ni fyddai wedi derbyn poethoffrwm a bwydoffrwm o'n llaw, na dangos yr holl bethau hyn i ni, na pheri inni glywed pethau fel hyn yn awr.” Wedi i'r wraig eni mab, galwodd ef Samson; tyfodd y bachgen dan fendith yr ARGLWYDD, a dechreuodd ysbryd yr ARGLWYDD ei gynhyrfu yn Mahane-dan, rhwng Sora ac Estaol.
Barnwyr 13:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid ddeugain mlynedd. Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora, o dylwyth y Daniaid, a’i enw ef oedd Manoa; a’i wraig ef oedd amhlantadwy, heb esgor. Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd i’r wraig, ac a ddywedodd wrthi, Wele, yn awr amhlantadwy ydwyt ti, ac heb esgor: ond ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr, atolwg, ymochel, ac nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan. Canys wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef: canys Nasaread i DDUW fydd y bachgen o’r groth: ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid. Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i’w gŵr, gan ddywedyd, Gŵr DUW a ddaeth ataf fi; a’i bryd ef oedd fel pryd angel DUW, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntau i mi ei enw. Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i DDUW fydd y bachgen, o’r groth hyd ddydd ei farwolaeth. Yna Manoa a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Atolwg, fy Arglwydd, gad i ŵr DUW yr hwn a anfonaist, ddyfod eilwaith atom ni, a dysgu i ni beth a wnelom i’r bachgen a enir. A DUW a wrandawodd ar lef Manoa: ac angel DUW a ddaeth eilwaith at y wraig, a hi yn eistedd yn y maes; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi. A’r wraig a frysiodd, ac a redodd, ac a fynegodd i’w gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ymddangosodd y gŵr i mi, yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall. A Manoa a gyfododd, ac a aeth ar ôl ei wraig, ac a ddaeth at y gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw y gŵr a leferaist wrth y wraig? Dywedodd yntau, Ie, myfi. A dywedodd Manoa, Deled yn awr dy eiriau i ben. Pa fodd y trinwn y bachgen, ac y gwnawn iddo ef? Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Manoa, Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi. Na fwytaed o ddim a ddêl allan o’r winwydden, nac yfed win na diod gadarn, ac na fwytaed ddim aflan: cadwed yr hyn oll a orchmynnais iddi. A dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, Gad, atolwg, i ni dy atal, tra y paratôm fyn gafr ger dy fron di. Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Manoa, Ped atelit fi, ni fwytawn o’th fara di: os gwnei boethoffrwm, gwna ef i’r ARGLWYDD. Canys ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd efe. A Manoa a ddywedodd wrth angel yr ARGLWYDD, Beth yw dy enw, fel y’th anrhydeddom di pan ddelo dy eiriau i ben? Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Paham yr ymofynni am fy enw, gan ei fod yn rhyfeddol? Felly Manoa a gymerth fyn gafr, a bwyd-offrwm, ac a’i hoffrymodd ar y graig i’r ARGLWYDD. A’r angel a wnaeth yn rhyfedd: a Manoa a’i wraig oedd yn edrych. Canys, pan ddyrchafodd y fflam oddi ar yr allor tua’r nefoedd, yna angel yr ARGLWYDD a ddyrchafodd yn fflam yr allor: a Manoa a’i wraig oedd yn edrych ar hynny, ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau. (Ond ni chwanegodd angel yr ARGLWYDD ymddangos mwyach i Manoa, nac i’w wraig.) Yna y gwybu Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd efe. A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig, Gan farw y byddwn feirw; canys gwelsom DDUW. Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, Pe mynasai yr ARGLWYDD ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd-offrwm o’n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau. A’r wraig a ymddûg fab, ac a alwodd ei enw ef Samson. A’r bachgen a gynyddodd; a’r ARGLWYDD a’i bendithiodd ef. Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddechreuodd ar amseroedd ei gynhyrfu ef yng ngwersyll Dan, rhwng Sora ac Estaol.