Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 11:1-40

Barnwyr 11:1-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd dyn yn Gilead o’r enw Jefftha, oedd yn filwr dewr. Putain oedd ei fam, ond roedd e wedi cael ei fagu gan ei dad, Gilead. Roedd gan Gilead nifer o feibion eraill hefyd – plant i’w wraig. Pan oedd y rhain wedi tyfu, dyma nhw’n gyrru Jefftha i ffwrdd. “Fyddi di’n etifeddu dim o eiddo’r teulu. Mab i wraig arall wyt ti.” Felly roedd rhaid i Jefftha ddianc oddi wrth ei frodyr. Aeth i fyw i ardal Tob, ac yn fuan iawn roedd yn arwain gang o rapsgaliwns gwyllt. Roedd hi beth amser ar ôl hyn pan ddechreuodd yr Ammoniaid ryfela yn erbyn Israel. A dyna pryd aeth arweinwyr Gilead i ardal Tob i ofyn i Jefftha ddod yn ôl. “Tyrd yn ôl i arwain y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid,” medden nhw wrtho. “Ond roeddech chi’n fy nghasáu i,” meddai Jefftha. “Chi yrrodd fi oddi cartref! A dyma chi, nawr, yn troi ata i am eich bod chi mewn trwbwl!” “Mae’n wir,” meddai arweinwyr Gilead wrtho. “Dŷn ni yn troi atat ti i ofyn i ti arwain y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Ond cei fod yn bennaeth Gilead i gyd ar ôl hynny!” A dyma Jefftha’n dweud, “Iawn. Os gwna i ddod gyda chi, a’r ARGLWYDD yn gadael i mi ennill y frwydr, fi fydd eich pennaeth chi.” Ac meddai’r arweinwyr, “Mae’r ARGLWYDD yn dyst a bydd yn ein barnu ni os na wnawn ni fel ti’n dweud.” Felly dyma Jefftha’n mynd gydag arweinwyr Gilead a chafodd ei wneud yn bennaeth ac arweinydd y fyddin. A dyma Jefftha’n ailadrodd telerau’r cytundeb o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa. Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid i ofyn pam roedd e’n ymosod ar y wlad. Yr ateb roddodd brenin yr Ammoniaid oedd, “Am fod pobl Israel wedi dwyn ein tir ni pan ddaethon nhw o’r Aifft – yr holl ffordd o afon Arnon yn y de i afon Jabboc yn y gogledd, ac at yr Iorddonen yn y gorllewin. Rho’r tir yn ôl i mi, a fydd yna ddim rhyfel.” Dyma Jefftha’n anfon negeswyr yn ôl at frenin Ammon, i ddweud, “Wnaeth Israel ddim dwyn y tir oddi ar bobloedd Moab ac Ammon. Pan ddaethon nhw allan o’r Aifft, dyma nhw’n teithio drwy’r anialwch at y Môr Coch ac yna ymlaen i Cadesh. Anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom, yn gofyn, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di?’ Ond wnaeth brenin Edom ddim gadael iddyn nhw. Gofynnodd Israel yr un peth i frenin Moab ond doedd yntau ddim yn fodlon gadael iddyn nhw groesi. Felly dyma bobl Israel yn aros yn Cadesh. Wedyn dyma nhw’n mynd rownd Edom a Moab – pasio heibio i’r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (afon Arnon oedd ffin Moab). Ar ôl hynny, dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, a gofyn iddo fe, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di i ni fynd i’n tir ein hunain?’ Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi’i dir. Felly dyma fe’n galw’i fyddin at ei gilydd a chodi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel. Yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth eu galluogi nhw i drechu Sihon a’i fyddin. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd – o afon Arnon yn y de i afon Jabboc yn y gogledd, ac o’r anialwch yn y dwyrain i’r Iorddonen yn y gorllewin. “Felly, yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth yrru’r Amoriaid allan o flaen pobl Israel. Wyt ti’n meddwl y gelli di ei gymryd oddi arnyn nhw? Cadw di beth mae dy dduw Chemosh wedi’i roi i ti. Dŷn ni am gadw tiroedd y bobloedd mae’r ARGLWYDD wedi’u gyrru allan o’n blaen ni. Wyt ti’n meddwl dy fod ti’n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw? Mae pobl Israel wedi bod yn byw yn y trefi yma ers tri chan mlynedd – Cheshbon ac Aroer a’r pentrefi o’u cwmpas, a’r trefi sydd wrth afon Arnon. Pam dych chi ddim wedi’u cymryd nhw yn ôl cyn hyn? Na, dw i ddim wedi gwneud cam â ti. Ti sy’n dechrau’r rhyfel yma. Heddiw, bydd yr ARGLWYDD, y Barnwr, yn penderfynu pwy sy’n iawn – pobl Israel neu’r Ammoniaid!” Ond wnaeth brenin Ammon ddim cymryd sylw o neges Jefftha. Yna dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Jefftha. Dyma fe’n arwain ei fyddin drwy diroedd Gilead a Manasse, pasio drwy Mitspe yn Gilead, a mynd ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid. Dyma fe’n addo ar lw i’r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid, gwna i roi i’r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o’r tŷ i’m cwrdd i pan af i adre. Bydda i’n ei gyflwyno’n offrwm i’w losgi’n llwyr i Dduw.” Yna dyma Jefftha a’i fyddin yn croesi i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid, a dyma’r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddo. Cafodd yr Ammoniaid eu trechu’n llwyr, o Aroer yr holl ffordd i Minnith, a hyd yn oed i Abel-ceramîm – dau ddeg o drefi i gyd. Dinistriodd nhw’n llwyr! Roedd yr Ammoniaid wedi’u trechu gan Israel. Pan aeth Jefftha adre i Mitspa, pwy redodd allan i’w groesawu ond ei ferch, yn dawnsio i gyfeiliant tambwrinau. Roedd hi’n unig blentyn. Doedd gan Jefftha ddim mab na merch arall. Pan welodd hi, dyma fe’n rhwygo’i ddillad. “O na! Fy merch i. Mae hyn yn ofnadwy. Mae’n drychinebus. Dw i wedi addo rhywbeth ar lw i’r ARGLWYDD, a does dim troi’n ôl.” Meddai ei ferch wrtho, “Dad, os wyt ti wedi addo rhywbeth i’r ARGLWYDD, rhaid i ti gadw dy addewid. Mae’r ARGLWYDD wedi cadw ei ochr e a rhoi buddugoliaeth i ti dros dy elynion, yr Ammoniaid. Ond gwna un peth i mi. Rho ddau fis i mi grwydro’r bryniau gyda’m ffrindiau, i alaru am fy mod byth yn mynd i gael priodi.” “Dos di,” meddai wrthi. A gadawodd iddi fynd i grwydro’r bryniau am ddeufis, yn galaru gyda’i ffrindiau am na fyddai byth yn cael priodi. Yna ar ddiwedd y deufis, dyma hi’n dod yn ôl at ei thad, a dyma fe’n gwneud beth roedd e wedi’i addo. Roedd hi’n dal yn wyryf pan fuodd hi farw. Daeth yn ddefod yn Israel fod y merched yn mynd i ffwrdd am bedwar diwrnod bob blwyddyn, i goffáu merch Jefftha o Gilead.

Barnwyr 11:1-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd Jefftha, brodor o Gilead, yn ŵr dewr; yr oedd yn fab i butain, a Gilead oedd ei dad. Yr oedd gan wraig Gilead hefyd feibion, ac wedi iddynt dyfu, gyrasant Jefftha allan a dweud wrtho, “Ni chei di etifeddiaeth yn nhŷ ein tad, oherwydd mab i wraig estron wyt ti.” Ciliodd Jefftha oddi wrth ei frodyr, a mynd i fyw i wlad Tob, lle casglodd ato nifer o wŷr ofer a oedd yn ei ddilyn. Ymhen amser aeth yr Ammoniaid i ryfela yn erbyn yr Israeliaid. A phan ddechreuodd y brwydro rhwng yr Ammoniaid ac Israel, aeth henuriaid Gilead i gyrchu Jefftha o wlad Tob, a dweud wrtho, “Tyrd, bydd di'n arweinydd inni, er mwyn inni ymladd â'r Ammoniaid.” Ond dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, “Onid chwi oedd yn fy nghasáu ac yn fy ngyrru o dŷ fy nhad? Pam y dewch ataf fi yn awr pan yw'n gyfyng arnoch?” Ac meddent hwythau wrtho, “Dyna pam y daethom atat yn awr. Tyrd yn ôl gyda ni ac ymladd â'r Ammoniaid, a chei fod yn ben ar holl drigolion Gilead.” Dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, “Os byddwch yn fy nghymryd yn ôl i ymladd â'r Ammoniaid, a'r ARGLWYDD yn eu rhoi yn fy llaw, yna byddaf yn ben arnoch.” Dywedodd henuriaid Gilead wrth Jefftha, “Bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom y gwnawn yn ôl dy air.” Aeth Jefftha gyda henuriaid Gilead, a gwnaeth y fyddin ef yn ben ac yn arweinydd arnynt, ac adroddodd Jefftha gerbron yr ARGLWYDD yn Mispa bopeth yr oedd wedi ei gytuno. Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid a dweud, “Beth sydd gennyt yn f'erbyn, dy fod wedi dod i ymosod ar fy ngwlad?” Dywedodd brenin yr Ammoniaid wrth negeswyr Jefftha, “Pan ddaeth Israel i fyny o'r Aifft, meddiannodd fy ngwlad rhwng nentydd Arnon a Jabboc, hyd at yr Iorddonen; felly dyro hi'n ôl yn awr yn heddychol.” Anfonodd Jefftha negeswyr eto at frenin yr Ammoniaid i ddweud wrtho, “Dyma a ddywed Jefftha: ‘Ni chymerodd Israel dir Moab na thir yr Ammoniaid; oherwydd pan ddaethant i fyny o'r Aifft, fe aeth Israel trwy'r anialwch hyd at y Môr Coch nes dod i Cades. Yna fe anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom a dweud, “Gad imi fynd trwy dy dir di”; ond ni wrandawai brenin Edom. Wedyn anfonwyd at frenin Moab, ac nid oedd ef yn fodlon; felly arhosodd Israel yn Cades. Yna aethant drwy'r anialwch i fynd heibio i dir Edom a thir Moab o'r tu dwyrain i wlad Moab, a gwersyllu y tu hwnt i nant Arnon, heb groesi terfyn Moab, oherwydd nant Arnon yw terfyn Moab. Anfonodd Israel negeswyr hefyd at frenin yr Amoriaid, Sihon brenin Hesbon, a dweud wrtho, “Gad imi groesi dy dir i'm lle fy hun.” Eto nid ymddiriedai Sihon yn Israel, iddi groesi ei ffin, ond casglodd ei holl fyddin a gwersyllu yn Jahas ac ymladd yn erbyn Israel. Rhoddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, Sihon a'i holl fyddin yn llaw Israel, ac fe'u lladdwyd; a meddiannodd Israel holl dir yr Amoriaid oedd yn byw yn yr ardal honno. Daethant i feddiannu holl derfynau'r Amoriaid o nant Arnon hyd nant Jabboc, ac o'r anialwch hyd yr Iorddonen. Yr ARGLWYDD, Duw Israel, a yrrodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel. A wyt ti'n awr am ei feddiannu? Onid yr hyn y bydd dy dduw Cemos yn ei roi'n feddiant iti yr wyt ti i'w feddiannu? Yn yr un modd meddiannwn ninnau'r cyfan y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ei roi'n feddiant i ninnau. Ac yn awr, a wyt ti rywfaint gwell na Balac fab Sippor, brenin Moab? A fu ef yn ymryson o gwbl ag Israel, neu'n ymladd erioed yn eu herbyn? Bu Israel yn byw yn Hesbon ac Aroer a'u maestrefi, ac yn yr holl drefi sydd ar lannau'r afon, am dri chan mlynedd; pam na fyddech wedi eu hadennill yn ystod y cyfnod hwnnw? Nid myfi sydd wedi pechu yn d'erbyn, ond ti sy'n gwneud cam â mi wrth ddod i ryfela yn f'erbyn. Y mae'r ARGLWYDD yn farnwr; barned ef heddiw rhwng Israel a'r Ammoniaid.’ ” Ond ni wrandawodd brenin yr Ammoniaid ar y neges a anfonodd Jefftha ato. Daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Jefftha, ac aeth trwy Gilead a Manasse a thrwy Mispe Gilead, ac oddi yno drosodd at yr Ammoniaid. A gwnaeth Jefftha adduned i'r ARGLWYDD a dweud, “Os rhoi di'r Ammoniaid yn fy llaw, beth bynnag a ddaw allan o ddrws fy nhŷ i'm cyfarfod wrth imi ddychwelyd yn ddiogel oddi wrth yr Ammoniaid, bydd yn eiddo i'r ARGLWYDD, ac offrymaf ef yn boethoffrwm.” A phan aeth Jefftha i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid, fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Jefftha, a goresgynnodd hwy'n llwyr, o Aroer hyd gyffiniau Minnith—ugain tref, gan gynnwys Abel-ceramim; felly darostyngwyd yr Ammoniaid gan yr Israeliaid. Pan gyrhaeddodd Jefftha ei gartref yn Mispa, daeth ei ferch allan i'w gyfarfod â thympanau a dawnsiau. Hi oedd ei unig blentyn; nid oedd ganddo fab na merch ar wahân iddi hi. A phan welodd ef hi, rhwygodd ei wisg, a dweud, “Gwae fi, fy merch! Yr wyt ti wedi fy nryllio'n llwyr, a thi yw achos fy nhrallod. Gwneuthum addewid i'r ARGLWYDD, ac ni allaf ei thorri.” Ac meddai hithau wrtho, “Fy nhad, yr wyt wedi gwneud addewid i'r ARGLWYDD; gwna imi fel yr addewaist, wedi i'r ARGLWYDD sicrhau iti ddialedd ar dy elynion, yr Ammoniaid.” Ychwanegodd, “Caniatâ un peth i mi; rho imi ysbaid o ddeufis i grwydro'r mynyddoedd ac i wylo am fy morwyndod gyda'm ffrindiau.” Dywedodd yntau, “Ie, dos.” Gadawodd iddi fynd am ddeufis; ac aeth hithau a'i ffrindiau i wylo am ei morwyndod ar y mynyddoedd. Ar derfyn y deufis, daeth yn ôl at ei thad, a gwnaeth yntau iddi yn ôl yr adduned a dyngodd. Nid oedd hi wedi cael cyfathrach â gŵr. A daeth hyn yn ddefod yn Israel, bod merched Israel yn mynd allan bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha o Gilead am bedwar diwrnod yn y flwyddyn.

Barnwyr 11:1-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Jefftha y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol, ac efe oedd fab i wraig o buteinwraig: a Gilead a genedlasai y Jefftha hwnnw. A gwraig Gilead a ymddûg iddo feibion: a meibion y wraig a gynyddasant, ac a fwriasant ymaith Jefftha, ac a ddywedasant wrtho, Nid etifeddi di yn nhŷ ein tad ni; canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti. Yna Jefftha a ffodd rhag ei frodyr, ac a drigodd yng ngwlad Tob; a dynion ofer a ymgasglasant at Jefftha, ac a aethant allan gydag ef. Ac wedi talm o ddyddiau, meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel. A phan oedd meibion Ammon yn rhyfela yn erbyn Israel, yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jefftha o wlad Tob: Ac a ddywedasant wrth Jefftha, Tyred a bydd yn dywysog i ni, fel yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon. A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, Oni chasasoch chwi fi, ac a’m gyrasoch o dŷ fy nhad? a phaham y deuwch ataf fi yn awr, pan yw gyfyng arnoch? A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Am hynny y dychwelasom yn awr atat ti, fel y delit gyda ni, ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon, ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead. A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, O dygwch fi yn fy ôl i ymladd yn erbyn meibion Ammon, a rhoddi o’r ARGLWYDD hwynt o’m blaen i; a gaf fi fod yn ben arnoch chwi? A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Yr ARGLWYDD a fyddo yn dyst rhyngom ni, oni wnawn ni felly yn ôl dy air di. Yna Jefftha a aeth gyda henuriaid Gilead; a’r bobl a’i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt: a Jefftha a adroddodd ei holl eiriau gerbron yr ARGLWYDD ym Mispa. A Jefftha a anfonodd genhadau at frenin meibion Ammon, gan ddywedyd, Beth sydd i ti a wnelych â mi, fel y delit yn fy erbyn i ymladd yn fy ngwlad i? A brenin meibion Ammon a ddywedodd wrth genhadau Jefftha, Oherwydd i Israel ddwyn fy ngwlad i pan ddaeth i fyny o’r Aifft, o Arnon hyd Jabboc, a hyd yr Iorddonen: yn awr gan hynny dod hwynt adref mewn heddwch. A Jefftha a anfonodd drachefn genhadau at frenin meibion Ammon; Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Jefftha; Ni ddug Israel dir Moab, na thir meibion Ammon: Ond pan ddaeth Israel i fyny o’r Aifft, a rhodio trwy’r anialwch, hyd y môr coch, a dyfod i Cades; Yna Israel a anfonodd genhadau at frenin Edom, gan ddywedyd, Gad i mi dramwy, atolwg, trwy dy wlad di. Ond ni wrandawodd brenin Edom. A hwy a anfonasant hefyd at frenin Moab: ond ni fynnai yntau. Felly Israel a arhosodd yn Cades. Yna hwy a gerddasant yn yr anialwch, ac a amgylchynasant wlad Edom, a gwlad Moab; ac a ddaethant o du codiad haul i wlad Moab, ac a wersyllasant tu hwnt i Arnon; ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab: canys Arnon oedd derfyn Moab. Ac Israel a anfonodd genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, brenin Hesbon; ac Israel a ddywedodd wrtho, Gad i ni dramwy, atolwg, trwy dy wlad di, hyd fy mangre. Ond nid ymddiriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef: eithr Sehon a gasglodd ei holl bobl, a hwy a wersyllasant yn Jahas, ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel. Ac ARGLWYDD DDUW Israel a roddodd Sehon a’i holl bobl yn llaw Israel; a hwy a’u trawsant hwynt. Felly Israel a feddiannodd holl wlad yr Amoriaid, trigolion y wlad honno. Meddianasant hefyd holl derfynau yr Amoriaid, o Arnon hyd Jabboc, ac o’r anialwch hyd yr Iorddonen. Felly yn awr, ARGLWYDD DDUW Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel: gan hynny ai tydi a’i meddiannit hi? Oni feddienni di yr hyn a roddo Cemos dy dduw i ti i’w feddiannu? Felly yr hyn oll a oresgynno yr ARGLWYDD ein DUW o’n blaen ni a feddiannwn ninnau. Ac yn awr, a wyt ti yn well na Balac mab Sippor, brenin Moab? a ymrysonodd efe erioed ag Israel, neu gan ymladd a ymladdodd efe i’w herbyn hwy? Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a’i threfydd, ac yn Aroer a’i threfydd, ac yn yr holl ddinasoedd y rhai sydd wrth derfynau Arnon, dri chan mlynedd; paham nad achubasoch hwynt y pryd hwnnw? Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur cam â mi, gan ymladd yn fy erbyn i; yr ARGLWYDD Farnwr a farno heddiw rhwng meibion Israel a meibion Ammon. Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Jefftha, y rhai a anfonodd efe ato. Yna y daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Jefftha; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse; ac a aeth dros Mispa Gilead, ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon. A Jefftha a addunedodd adduned i’r ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i; Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr ARGLWYDD, a mi a’i hoffrymaf ef yn boethoffrwm. Felly Jefftha a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn; a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn ei law ef. Ac efe a’u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain dinas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd, â lladdfa fawr iawn. Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel. A Jefftha a ddaeth i Mispa i’w dŷ ei hun: ac wele ei ferch yn dyfod allan i’w gyfarfod â thympanau, ac â dawnsiau; a hi oedd ei unig etifedd ef; nid oedd ganddo na mab na merch ond hyhi. A phan welodd efe hi, efe a rwygodd ei ddillad, ac ddywedodd, Ah! ah! fy merch, gan ddarostwng y darostyngaist fi; ti hefyd wyt un o’r rhai sydd yn fy molestu: canys myfi a agorais fy ngenau wrth yr ARGLWYDD, ac ni allaf gilio. A hi a ddywedodd wrtho, Fy nhad, od agoraist dy enau wrth yr ARGLWYDD, gwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o’th enau; gan i’r ARGLWYDD wneuthur drosot ti ddialedd ar dy elynion, meibion Ammon. Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thad, Gwneler i mi y peth hyn; paid â mi ddau fis, fel yr elwyf i fyny ac i waered ar y mynyddoedd, ac yr wylwyf oherwydd fy morwyndod, mi a’m cyfeillesau. Ac efe a ddywedodd, Dos. Ac efe a’i gollyngodd hi dros ddau fis. A hi a aeth â’i chyfeillesau, ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd. Ac ymhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad: ac efe a wnaeth â hi yr adduned a addunasai efe: a hi ni adnabuasai ŵr. A bu hyn yn ddefod yn Israel, Fyned o ferched Israel bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha y Gileadiad, bedwar diwrnod yn y flwyddyn.