Barnwyr 10:1-5
Barnwyr 10:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl i Abimelech farw, dyma Tola, mab Pwa ac ŵyr Dodo, yn codi i achub Israel. Roedd yn perthyn i lwyth Issachar ac yn byw yn Shamîr ym mryniau Effraim. Bu’n arwain Israel am ddau ddeg tair o flynyddoedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Shamîr. Ar ôl Tola, dyn o’r enw Jair o Gilead wnaeth arwain Israel am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Roedd gan Jair dri deg o feibion ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun, ac roedd pob un yn rheoli tref yn Gilead. Mae’r trefi yma yn Gilead yn dal i gael eu galw yn Hafoth-jair hyd heddiw. Pan fuodd Jair farw, cafodd ei gladdu yn Camon.
Barnwyr 10:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl Abimelech, yr un a gododd i waredu Israel oedd Tola fab Pua, fab Dodo, dyn o Issachar a oedd yn byw yn Samir ym mynydd-dir Effraim. Bu'n farnwr ar Israel am dair blynedd ar hugain; a phan fu farw, claddwyd ef yn Samir. Ar ei ôl cododd Jair, brodor o Gilead. Bu'n farnwr ar Israel am ddwy flynedd ar hugain. Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a arferai farchogaeth ar ddeg ar hugain o asynnod; ac yr oedd ganddynt ddeg dinas ar hugain yn nhir Gilead; gelwir y rhain yn Hafoth-jair hyd heddiw. Pan fu farw Jair, claddwyd ef yn Camon.
Barnwyr 10:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar ôl Abimelech, y cyfododd i waredu Israel, Tola, mab Pua, mab Dodo, gŵr o Issachar; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Effraim. Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain, ac a fu farw, ac a gladdwyd yn Samir. Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jair, Gileadiad; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain. Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ar hugain o ebolion asynnod; a deg dinas ar hugain oedd ganddynt, y rhai a elwid Hafoth-jair hyd y dydd hwn, y rhai ydynt yng ngwlad Gilead. A Jair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon.