Iago 5:7-9
Iago 5:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, frodyr a chwiorydd annwyl, byddwch yn amyneddgar wrth ddisgwyl i’r Arglwydd ddod yn ôl. Meddyliwch am y ffermwr sy’n disgwyl yn amyneddgar am law yn yr hydref a’r gwanwyn i wneud i’r cnwd dyfu. Dylech chi fod yr un mor amyneddgar, a sefyll yn gadarn, gan fod yr Arglwydd yn dod yn fuan. Peidiwch grwgnach am eich gilydd, frodyr a chwiorydd, neu cewch chi’ch cosbi. Mae’r Barnwr yn dod! Mae’n sefyll y tu allan i’r drws!
Iago 5:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Gwelwch fel y mae'r ffermwr yn aros am gynnyrch gwerthfawr y ddaear, yn fawr ei amynedd amdano nes i'r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar. Byddwch chwithau hefyd yn amyneddgar, a'ch cadw eich hunain yn gadarn, oherwydd y mae dyfodiad yr Arglwydd wedi dod yn agos. Peidiwch ag achwyn ar eich gilydd, fy nghyfeillion, rhag ichwi gael eich barnu. Gwelwch, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws.
Iago 5:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar. Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd. Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na’ch condemnier: wele, y mae’r Barnwr yn sefyll wrth y drws.