Iago 5:1-6
Iago 5:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A chi bobl gyfoethog, gwrandwch! – dylech chi fod yn crio ac yn griddfan o achos y dioddefaint sydd o’ch blaenau. Mae’ch cyfoeth chi’n pydru a’ch dillad yn cael eu difa gan wyfynod. Mae’ch aur a’ch arian chi’n rhydu, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chi. Cewch eich difa gan dân am gasglu cyfoeth i chi’ch hunain mewn byd sy’n dod i ben. Gwrandwch! Mae’r cyflogau dych chi heb eu talu i’r gweithwyr yn gweiddi’n uchel. Mae Arglwydd y Lluoedd wedi clywed cri y rhai hynny fu’n casglu’r cynhaeaf yn eich caeau chi. Dych chi wedi byw’n foethus ac wedi bod yn gwbl hunanol. Ydych! Dych chi wedi bod yn pesgi’ch hunain ar gyfer y diwrnod y byddwch chi’n mynd i’r lladd-dy! Mae pobl ddiniwed sydd ddim yn gallu’ch gwrthwynebu chi wedi’u hecsbloetio a’u condemnio i farwolaeth gynnoch chi.
Iago 5:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac yn awr, chwi'r cyfoethogion, wylwch ac udwch o achos y trallodion sydd yn dod arnoch. Y mae eich golud wedi pydru, ac y mae'r gwyfyn wedi difa eich dillad. Y mae eich aur a'ch arian wedi rhydu, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac yn bwyta eich cnawd fel tân. Casglu cyfoeth a wnaethoch yn y dyddiau olaf. Clywch! Y mae'r cyflogau na thalasoch i'r gweithwyr a fedodd eich meysydd yn gweiddi allan; ac y mae llefain y medelwyr yng nghlustiau Arglwydd y Lluoedd. Buoch yn byw yn foethus a glwth ar y ddaear; buoch yn eich pesgi'ch hunain ar gyfer dydd y lladdfa. Yr ydych wedi condemnio a lladd y cyfiawn, heb iddo yntau eich gwrthsefyll.
Iago 5:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch. Eich cyfoeth a bydrodd, a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed. Eich aur a’ch arian a rydodd; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf. Wele, y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd. Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth. Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn: ac yntau heb sefyll i’ch erbyn.