Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iago 3:3-6 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Iago 3:3-6 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dŷn ni’n rhoi ffrwyn ar geffyl i’w wneud yn ufudd i ni, a’i droi i’r cyfeiriad dŷn ni am iddo fynd. A gyda llongau mawr sy’n cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, llyw bach iawn sydd ei angen i’r peilot eu troi nhw i ble bynnag mae’n dewis mynd. Dyna i chi’r tafod! Mae’n rhan bach iawn o’r corff, ond mae’n gallu honni pethau mawr iawn! Fflam fach iawn sydd ei angen i roi coedwig enfawr ar dân. A fflam felly ydy’r tafod! Mae’r tafod yn llawn drygioni, ac o bob rhan o’r corff, hwn ydy’r un sy’n gallu llygru’r bersonoliaeth gyfan. Mae’n gallu dinistrio holl gwrs ein bywyd ni! Mae’n fflam sydd wedi’i thanio gan uffern!

Iago 3:3-6 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yr ydym yn rhoi'r ffrwyn yng ngenau'r march i'w wneud yn ufudd inni, ac yna gallwn droi ei gorff cyfan. A llongau yr un modd; hyd yn oed os ydynt yn llongau mawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, gellir eu troi â llyw bychan iawn i ba gyfeiriad bynnag y mae'r peilot yn ei ddymuno. Felly hefyd y mae'r tafod; aelod bychan ydyw, ond y mae'n honni pethau mawr. Ystyriwch fel y mae gwreichionen fechan yn gallu rhoi coedwig fawr ar dân. A thân yw'r tafod; byd o anghyfiawnder ydyw, wedi ei osod ymhlith ein haelodau, yn halogi'r corff i gyd, ac yn rhoi holl gylch ein bodolaeth ar dân wrth iddo ef ei hun gael ei roi ar dân gan uffern.

Iago 3:3-6 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau’r meirch, i’w gwneuthur yn ufudd i ni; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch. Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno’r llywydd. Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn! A’r tafod, tân ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae’r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi’r holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern.