Iago 2:14-16
Iago 2:14-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Frodyr a chwiorydd, beth ydy’r pwynt i rywun honni ei fod yn credu, ac wedyn gwneud dim byd o ganlyniad i hynny? Ai dyna’r math o ‘gredu’ sy’n achub rhywun? Er enghraifft, os ydych chi’n gweld brawd neu chwaer yn brin o ddillad neu heb fwyd, ac yna’n dweud, “Pob bendith i ti! Cadw’n gynnes, a gobeithio cei di rywbeth i’w fwyta.” Beth ydy’r pwynt os ydych chi’n ei adael yno heb roi dim byd iddo?
Iago 2:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy nghyfeillion, pa les yw i rywun ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all y ffydd honno ei achub? Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol, ac un ohonoch yn dweud wrthynt, “Ewch, a phob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd”, ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau'r corff, pa les ydyw?
Iago 2:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef? Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth, A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff; pa les fydd?