Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iago 1:17-27 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Iago 1:17-27 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydy’r Tad a greodd y sêr a’r planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn cael ei gysgodi. Mae Duw wedi dewis rhoi bywyd newydd i ni, drwy wirionedd ei neges. Mae wedi’n dewis ni’n arbennig iddo’i hun o blith y cwbl mae wedi’i greu. Gallwch fod yn hollol siŵr o’r peth, frodyr a chwiorydd. Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer. Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw. Felly rhaid cael gwared â phob budreddi a’r holl ddrygioni sy’n rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wedi’i phlannu yn eich calonnau chi – dyna’r neges sy’n eich achub chi. Gwnewch beth mae Duw’n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo’ch hunain ydy peth felly! Mae rhywun sy’n clywed ond ddim yn gwneud yn debyg i ddyn yn edrych mewn drych. Mae’n edrych arno’i hun, ac wedyn yn mynd i ffwrdd, ac yn anghofio sut olwg oedd arno! Ond mae’r un sy’n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy’n ein gollwng ni’n rhydd yn wahanol. Dydy’r sawl sy’n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi’i glywed; mae’n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae’n ei wneud! Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn dduwiol ond ddim yn gallu rheoli ei dafod, mae’n twyllo’i hun – dydy crefydd rhywun felly yn dda i ddim. Y math o grefydd mae Duw y Tad yn ei ystyried yn bur ac yn ddilys ydy’r grefydd sy’n gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy’n dioddef, ac sy’n gwrthod dylanwad y byd.

Iago 1:17-27 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith. Disgyn y maent oddi wrth Dad goleuadau'r nef; ac iddo ef ni pherthyn na chyfnewid na chysgod troadau'r rhod. O'i fwriad ei hun y cenhedlodd ef ni trwy air y gwirionedd, er mwyn inni fod yn fath o flaenffrwyth o'i greaduriaid. Ystyriwch, fy nghyfeillion annwyl. Rhaid i bob un fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru, ac yn araf i ddigio, oherwydd nid yw dicter dynol yn hyrwyddo cyfiawnder Duw. Ymaith gan hynny â phob aflendid, ac ymaith â'r drygioni sydd ar gynnydd, a derbyniwch yn wylaidd y gair hwnnw a blannwyd ynoch, ac sy'n abl i achub eich eneidiau. Byddwch yn weithredwyr y gair, nid yn wrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain. Oherwydd os yw rhywun yn wrandawr y gair, ac nid yn weithredwr, y mae'n debyg i un yn gweld mewn drych yr wyneb a gafodd; fe'i gwelodd ei hun, ac yna, wedi iddo fynd i ffwrdd, anghofiodd ar unwaith pa fath un ydoedd. Ond am y sawl a roes sylw dyfal i berffaith gyfraith rhyddid ac a ddaliodd ati, a dod yn weithredwr ei gofynion, ac nid yn wrandawr anghofus, bydd hwnnw yn ddedwydd yn ei weithredoedd. Os yw rhywun yn tybio ei fod yn grefyddol, ac yntau'n methu ffrwyno'i dafod, ac yn wir yn twyllo'i galon ei hun, yna ofer yw crefydd hwnnw. Dyma'r grefydd sy'n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod rhywun yn gofalu am yr amddifad a'r gweddwon yn eu cyfyngder, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd.

Iago 1:17-27 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth. O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef. O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint: Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw. Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau. A byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain. Oblegid os yw neb yn wrandawr y gair, ac heb fod yn wneuthurwr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wynepryd naturiol mewn drych: Canys efe a’i hedrychodd ei hun, ac a aeth ymaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd. Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid, ac a barhao ynddi, hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond gwneuthurwr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithred. Os yw neb yn eich mysg yn cymryd arno fod yn grefyddol, heb atal ei dafod, ond twyllo’i galon ei hun, ofer yw crefydd hwn. Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a’r Tad, yw hyn; Ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd.