Iago 1:1-5
Iago 1:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Llythyr gan Iago, gwas i Dduw a’r Arglwydd Iesu Grist. At Gristnogion Iddewig sydd wedi’u gwasgaru drwy’r holl wledydd. Cyfarchion! Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi’n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny’n rheswm i fod yn llawen. Achos pan mae’ch ffydd chi’n cael ei brofi mae hynny’n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi’r gorau iddi. Ac mae dal ati drwy’r cwbl yn eich gwneud chi’n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth! Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw.
Iago 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Iago, gwas Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, cyfarchion. Fy nghyfeillion, cyfrifwch hi'n llawenydd pur pan syrthiwch i amrywiol brofedigaethau, gan wybod fod y prawf ar eich ffydd yn magu dyfalbarhad. A gadewch i ddyfalbarhad gyflawni ei waith, er mwyn ichwi fod yn berffaith a chyflawn, heb fod yn ddiffygiol mewn dim. Ac os oes un ohonoch yn ddiffygiol mewn doethineb, gofynned gan Dduw, ac fe'i rhoddir iddo, oherwydd y mae Duw yn rhoi i bawb yn hael a heb ddannod.
Iago 1:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Iago, gwasanaethwr Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, annerch. Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau; Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd. Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim. O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef.