Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 9:3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 9:3 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ti wedi lluosogi’r genedl, a’i gwneud yn hapus iawn; maen nhw’n dathlu o dy flaen di fel ffermwyr adeg y cynhaeaf, neu filwyr yn cael sbri wrth rannu’r ysbail.

Eseia 9:3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Amlheaist orfoledd iddynt, chwanegaist lawenydd; llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf, ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail.

Eseia 9:3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Amlheaist y genhedlaeth, ni chwanegaist lawenydd; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf, ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail.