Eseia 8:16-22 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Eseia 8:16-22 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y rhybudd yma’n cael ei rwymo, a’r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a’i chadw gan fy nisgyblion i. Dw i’n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i’n ei drystio fe! Dyma fi, a’r plant mae’r ARGLWYDD wedi’u rhoi i mi. Maen nhw’n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD hollbwerus, sy’n byw ar Fynydd Seion. Bydd pobl yn dweud wrthoch chi, “Ewch i holi’r swynwyr a’r dewiniaid sy’n sgrechian a griddfan. Oni ddylai pobl geisio’u ‘duwiau’ – holi’r meirw ar ran y byw?” “At y gyfraith a’r dystiolaeth! Os nad ydyn nhw’n siarad yn gyson â’r neges yma, maen nhw yn y tywyllwch.” Maen nhw’n cerdded o gwmpas mewn eisiau a newyn. Am eu bod yn llwgu byddan nhw’n gwylltio ac yn melltithio’u brenin a’u ‘duwiau’, wrth edrych i fyny. Wrth edrych ar y tir does dim i’w weld ond trwbwl a thywyllwch, düwch a gwewyr meddwl – bydd wedi’i daflu i dywyllwch dudew.
Eseia 8:16-22 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhwyma'r dystiolaeth, selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion. Disgwyliaf finnau am yr ARGLWYDD, sy'n cuddio'i wyneb rhag tŷ Jacob; arhosaf yn eiddgar amdano. Wele fi a'r meibion a roes yr ARGLWYDD i mi yn arwyddion ac yn argoelion yn Israel oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd, sy'n trigo ym Mynydd Seion. A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw am gyfarwyddyd a thystiolaeth? Dyma'r gair a ddywedant, ac nid oes oleuni ynddo. Bydd yn tramwy trwy'r wlad mewn caledi a newyn; a phan newyna bydd yn chwerwi, ac yn melltithio ei frenin a'i Dduw. A phan fydd yn troi ei olwg tuag i fyny neu'n edrych tua'r ddaear, wele drallod a thywyllwch, caddug cyfyngder; bydd wedi ei fwrw i dywyllwch du.
Eseia 8:16-22 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion. A minnau a ddisgwyliaf am yr ARGLWYDD sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Jacob, ac a wyliaf amdano. Wele fi a’r plant a roddes yr ARGLWYDD i mi, yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel: oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion. A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch â’r swynyddion, ac â’r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid â’u DUW yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw? At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt. A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a’u DUW, ac a edrychant i fyny. A hwy a edrychant ar y ddaear; ac wele drallod a thywyllwch, niwl cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.