Eseia 64:5-7
Eseia 64:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ti’n helpu’r rhai sy’n mwynhau gwneud beth sy’n iawn, ac sy’n cofio sut un wyt ti. Er dy fod ti’n ddig am ein bod ni’n pechu o hyd, gallen ni ddal gael ein hachub! Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan, mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron. Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen, Ac mae’n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd. Does neb yn galw ar dy enw di, nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti. Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni, a gwneud i ni wynebu’n methiant!
Eseia 64:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rwyt yn cyfarfod â'r rhai sy'n hoffi gwneud cyfiawnder, y rhai sy'n cofio am dy ffyrdd. Er dy fod yn digio pan oeddem ni'n pechu, eto roeddem yn dal i droseddu yn dy erbyn. Aethom i gyd fel peth aflan, a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron; yr ydym i gyd wedi crino fel deilen, a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt. Ac nid oes neb yn galw ar dy enw, nac yn trafferthu i afael ynot; cuddiaist dy wyneb oddi wrthym, a'n traddodi i afael ein camweddau.
Eseia 64:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cyfarfyddi â’r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig. Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthiasom ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynt, a’n dug ni ymaith. Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein hanwireddau.