Eseia 6:6-7 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Eseia 6:6-7 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma un o’r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi’i gymryd oddi ar yr allor mewn gefel. Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a thalwyd iawn am dy bechod.”
Rhanna
Eseia 6 BNETEseia 6:6-7 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor; ac fe'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, a dweud, “Wele, y mae hwn wedi cyffwrdd â'th enau; symudwyd dy ddrygioni, a maddeuwyd dy bechod.”
Rhanna
Eseia 6 BCNDEseia 6:6-7 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel: Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod.
Rhanna
Eseia 6 BWM