Eseia 6:5-6 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Eseia 6:5-6 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i’n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda’m llygaid fy hun – yr ARGLWYDD hollbwerus.” Yna dyma un o’r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi’i gymryd oddi ar yr allor mewn gefel.
Eseia 6:5-6 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedais, “Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a'i wefusau'n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a'u gwefusau'n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf â'm llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd.” Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor
Eseia 6:5-6 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd. Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel