Eseia 6:5 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Eseia 6:5 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i’n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda’m llygaid fy hun – yr ARGLWYDD hollbwerus.”
Rhanna
Eseia 6 BNETEseia 6:5 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedais, “Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a'i wefusau'n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a'u gwefusau'n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf â'm llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd.”
Rhanna
Eseia 6 BCNDEseia 6:5 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd.
Rhanna
Eseia 6 BWM