Eseia 6:2-4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Eseia 6:2-4 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Roedd seraffiaid yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio’i wyneb, dwy i guddio’i goesau, a dwy i hedfan. Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud, “Sanctaidd! Sanctaidd! Mor sanctaidd ydy’r ARGLWYDD hollbwerus! Mae ei ysblander yn llenwi’r ddaear gyfan!” Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a’r neuadd yn llenwi gyda mwg.
Eseia 6:2-4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un â chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg. Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall, “Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd; y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.” Ac fel yr oeddent yn galw, yr oedd sylfeini'r rhiniogau'n ysgwyd, a llanwyd y tŷ gan fwg.
Eseia 6:2-4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw ARGLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef. A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.