Eseia 6:1-3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Eseia 6:1-3 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Yn y flwyddyn y buodd y Brenin Wseia farw, gwelais y Meistr yn eistedd ar orsedd uchel, ac ymylon ei wisg yn llenwi’r deml. Roedd seraffiaid yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio’i wyneb, dwy i guddio’i goesau, a dwy i hedfan. Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud, “Sanctaidd! Sanctaidd! Mor sanctaidd ydy’r ARGLWYDD hollbwerus! Mae ei ysblander yn llenwi’r ddaear gyfan!”
Eseia 6:1-3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Usseia, gwelais yr ARGLWYDD. Yr oedd yn eistedd ar orsedd uchel, ddyrchafedig, a godre'i wisg yn llenwi'r deml. Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un â chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg. Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall, “Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd; y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.”
Eseia 6:1-3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr ARGLWYDD yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml. Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw ARGLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef.