Eseia 56:5-6
Eseia 56:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
dw i’n mynd i godi cofeb yn fy nhŷ, y tu mewn i’w waliau: rhywbeth gwell na meibion a merched, a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth. Ac i’r bobl estron sydd wedi ymrwymo i wasanaethu’r ARGLWYDD, ei garu, a dod yn weision iddo – pawb sy’n cadw’r Saboth heb ei wneud yn aflan, ac sy’n glynu’n ffyddlon i’r ymrwymiad wnes i
Eseia 56:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i'm muriau gofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched; rhof iddynt enw parhaol nas torrir ymaith. A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD, yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw, sy'n dod yn weision iddo ef, yn cadw'r Saboth heb ei halogi ac yn glynu wrth fy nghyfamod
Eseia 56:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ie, rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd, le ac enw gwell na meibion ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragwyddol, yr hwn ni thorrir ymaith. A’r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr ARGLWYDD, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw yr ARGLWYDD, i fod yn weision iddo ef, pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfamod