Eseia 55:1-13
Eseia 55:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr! Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag! Prynwch a bwytwch. Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian – mae am ddim! Pam gwario’ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd, a’ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni? Gwrandwch yn ofalus arna i! Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion. Gwrandwch arna i, a dewch yma. Os gwnewch chi wrando, cewch fyw! Bydda i’n gwneud ymrwymiad hefo chi fydd yn para am byth – fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd. Gwnes i e’n dyst i bobloedd, yn arweinydd yn rheoli gwledydd.” Byddi di’n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod, a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod di yn rhedeg atat ti – o achos yr ARGLWYDD dy Dduw, Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di. Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael! Galwch arno tra mae’n agos! Rhaid i’r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a’r rhai sy’n creu helynt ar eu bwriadau – troi’n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau. Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â’ch bwriadau chi, a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â’ch ffyrdd chi –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. Fel mae’r nefoedd gymaint uwch na’r ddaear, mae fy ffyrdd i yn uwch na’ch ffyrdd chi, a’m bwriadau i yn well na’ch bwriadau chi. Ond fel y glaw a’r eira sy’n disgyn o’r awyr a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio’r ddaear gan wneud i blanhigion dyfu a rhoi hadau i’w hau a bwyd i’w fwyta, felly mae’r neges dw i’n ei chyhoeddi: dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith – mae’n gwneud beth dw i eisiau, ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas. Ie, byddwch chi’n mynd allan yn llawen ac yn cael eich arwain mewn heddwch. Bydd y mynyddoedd a’r bryniau’n bloeddio canu o’ch blaen, a’r coed i gyd yn curo dwylo. Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain, a llwyni myrtwydd yn lle mieri. Byddan nhw’n sefyll yno i atgoffa pobl am yr ARGLWYDD, fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.
Eseia 55:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno; dewch, er eich bod heb arian; prynwch a bwytewch. Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian a heb dâl. Pam y gwariwch arian am yr hyn nad yw'n fara, a llafurio am yr hyn nad yw'n digoni? Gwrandewch arnaf yn astud, a chewch fwyta'r hyn sydd dda, a mwynhau danteithion. Gwrandewch arnaf, dewch ataf; clywch, a byddwch fyw. Gwnaf â chwi gyfamod tragwyddol, fy ffyddlondeb sicr i Ddafydd. Edrych, rhois ef yn dyst i'r bobl, yn arweinydd a chyfarwyddwr i'r bobl. Edrych, byddi'n galw ar genedl nid adweini, a bydd cenedl nad yw'n dy adnabod yn rhedeg atat; oherwydd yr ARGLWYDD dy Dduw, o achos Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu.” Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos. Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r un ofer ei fwriadau, a dychwelyd at yr ARGLWYDD, iddo drugarhau wrtho, ac at ein Duw ni, oherwydd fe faddau'n helaeth. “Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr ARGLWYDD. “Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear, y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi. Fel y mae'r glaw a'r eira yn disgyn o'r nefoedd, a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau'r ddaear, a gwneud iddi darddu a ffrwythloni, a rhoi had i'w hau a bara i'w fwyta, felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna'r hyn a ddymunaf, a llwyddo â'm neges. “Mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn heddwch y'ch arweinir; bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen, a holl goed y maes yn curo dwylo. Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri; bydd hyn yn glod i'r ARGLWYDD, yn arwydd tragwyddol na ddileir mohono.”
Eseia 55:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O deuwch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth. Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster. Gogwyddwch eich clust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd. Wele, rhoddais ef yn dyst i’r bobl, yn flaenor ac yn athro i’r bobloedd. Wele, cenedl nid adwaeni a elwi, a chenhedloedd ni’th adwaenai di a red atat, er mwyn yr ARGLWYDD dy DDUW, ac oherwydd Sanct Israel: canys efe a’th ogoneddodd. Ceisiwch yr ARGLWYDD, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos. Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr ARGLWYDD, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein DUW ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth. Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr ARGLWYDD. Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi. Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i’r heuwr, a bara i’r bwytawr: Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o’m genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid. Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y’ch arweinir; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo. Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd: a hyn fydd i’r ARGLWYDD yn enw, ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith.