Eseia 51:9-23
Eseia 51:9-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Deffra, deffra! Dangos dy nerth, o fraich yr ARGLWYDD! Deffra, fel yn yr hen ddyddiau, yn yr amser a fu! Onid ti dorrodd Rahab yn ddarnau, a thrywanu’r ddraig? Onid ti sychodd y môr, a dŵr y dyfnder mawr? Onid ti wnaeth ddyfnder y môr yn ffordd i’r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni? Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy’n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw’n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd. “Fi, fi ydy’r un sy’n eich cysuro chi! Pam wyt ti’n ofni dyn meidrol – pobl feidrol sydd fel glaswellt? Wyt ti wedi anghofio’r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di? Yr un wnaeth ledu’r awyr a gosod sylfeini’r ddaear! Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy’r amser, fod y gormeswr wedi gwylltio ac yn barod i dy daro di i lawr? Ble mae llid y gormeswr beth bynnag? Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys! Fydd e ddim yn marw yn ei gell nac yn llwgu. Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw di sy’n corddi’r môr yn donnau mawr – yr ARGLWYDD hollbwerus ydy fy enw i. Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannu ac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw; Fi roddodd yr awyr yn ei lle a gwneud y ddaear yn gadarn! A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’” Deffra! Deffra! Saf ar dy draed, Jerwsalem – ti sydd wedi yfed o’r gwpan roddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid! Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i’w gwaelod! Does yr un o’r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain; does dim un o’r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw. Mae dau beth wedi digwydd i ti: llanast a dinistr – pwy sy’n cydymdeimlo gyda ti? newyn a’r cleddyf – sut alla i dy gysuro di? Mae dy blant wedi llewygu! Maen nhw’n gorwedd ar gornel pob stryd, fel antelop wedi’i ddal mewn rhwyd – yn feddw gan ddigofaint yr ARGLWYDD, wedi’u ceryddu gan dy Dduw. Felly, gwrando ar hyn, ti’r un druenus sydd wedi meddwi, ond ddim ar win! Dyma mae dy feistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, y Duw sy’n dadlau achos ei bobl: “Edrych! Dw i wedi cymryd y gwpan feddwol o dy law di, y gostrel rois i i ti yn fy llid. Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto! Bydda i’n ei rhoi yn nwylo’r rhai wnaeth dy ormesu a dweud wrthot ti, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti.’ Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fod fel stryd i bobl ei sathru.”
Eseia 51:9-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Deffro, deffro, gwisg dy nerth, O fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, a'r oesoedd o'r blaen. Onid ti a ddrylliodd Rahab, a thrywanu'r ddraig? Onid ti a sychodd y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? Onid ti a wnaeth ddyfnderau'r môr yn ffordd i'r gwaredigion groesi? Fe ddychwel gwaredigion yr ARGLWYDD; dônt i Seion dan ganu, a llawenydd tragwyddol ar bob un. Hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith. “Myfi, myfi sy'n eich diddanu; pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol, neu rywun sydd fel glaswelltyn? Pam yr ydych yn anghofio'r ARGLWYDD, eich creawdwr, yr un a ledodd y nefoedd, ac a sylfaenodd y ddaear? Pam yr ofnwch o hyd, drwy'r dydd, rhag llid gorthrymwr sy'n barod i ddistrywio? Ond ple mae llid y gorthrymwr? Caiff y caeth ei ryddhau yn y man; ni fydd yn marw yn y gell, ac ni fydd pall ar ei fara. Myfi yw'r ARGLWYDD, dy Dduw, sy'n cynhyrfu'r môr nes i'r tonnau ruo; ARGLWYDD y Lluoedd yw fy enw. Gosodais fy ngeiriau yn dy enau, cysgodais di yng nghledr fy llaw; taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear, a dweud wrth Seion, ‘Fy mhobl wyt ti.’ ” Deffro, deffro, cod, Jerwsalem; yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid, yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol. O blith yr holl blant yr esgorodd arnynt, nid oes un a all ei thywys; o'r holl rai a fagodd, nid oes un a afael yn ei llaw. Daeth dau drychineb i'th gyfarfod— pwy a'th ddiddana? Dinistr a distryw, newyn a chleddyf— pwy a'th gysura? Gorwedd dy blant yn llesg ym mhen pob heol, fel gafrewig mewn magl; y maent yn llawn o lid yr ARGLWYDD, a cherydd dy Dduw. Am hynny, gwrando'n awr, y druan, sy'n feddw, er nad trwy win. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Arglwydd a'th Dduw di, yr un sy'n dadlau achos ei bobl: “Cymerais o'th law y cwpan meddwol, ac nid yfi mwyach waddod cwpan fy llid; ond rhof hi yn llaw dy ormeswyr, a ddywedodd wrthyt, ‘Plyga i lawr i ni gerdded trosot.’ Ac fe roist dy gefn fel llawr, ac fel heol iddynt gerdded trosti.”
Eseia 51:9-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Deffro, deffro, gwisg nerth, O fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab, ac a archollaist y ddraig? Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i’r gwaredigion i fyned drwodd? Am hynny y dychwel gwaredigion yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant i Seion â chanu, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith. Myfi, myfi, yw yr hwn a’ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a wneir fel glaswelltyn? Ac a anghofi yr ARGLWYDD dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio? a pha le y mae llid y gorthrymydd? Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef. Eithr myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a barthodd y môr, pan ruodd ei donnau: ei enw yw ARGLWYDD y lluoedd. Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y’th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt. Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lidiowgrwydd ef; yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef. Nid oes arweinydd iddi o’r holl feibion a esgorodd; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd. Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia trosot? dinistr a distryw, a newyn a chleddyf; trwy bwy y’th gysuraf? Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mhen pob heol, fel tarw gwyllt mewn magl: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr ARGLWYDD, a cherydd dy DDUW. Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a’r feddw, ac nid trwy win. Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr ARGLWYDD, a’th DDUW di, yr hwn a ddadlau dros ei bobl, Wele, cymerais o’th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd: ni chwanegi ei yfed mwy: Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot: a thi a osodaist dy gorff fel y llawr, ac fel heol i’r rhai a elent drosto.