Eseia 50:7-9
Eseia 50:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu – felly dw i ddim yn derbyn yr amarch. Dw i’n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint, a dw i’n gwybod na fydda i’n cywilyddio. Mae’r un sy’n fy amddiffyn i wrth fy ymyl – pwy sy’n meiddio ymladd yn fy erbyn? Gadewch i ni wynebu’n gilydd! pwy sydd am fy ngwrthwynebu i? Gadewch iddo ddod ata i! Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i – pwy sy’n mynd i’m cael yn euog o wneud drwg? Edrychwch! Byddan nhw’n treulio fel dilledyn; bydd gwyfyn yn eu difetha nhw.
Eseia 50:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal, am hynny ni chaf fy sarhau; felly gosodaf fy wyneb fel callestr, a gwn na'm cywilyddir. Y mae'r hwn sy'n fy nghyfiawnhau wrth law. Pwy a ddadlau i'm herbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd; pwy a'm gwrthwyneba? Gadewch iddo nesáu ataf. Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal: pwy a'm condemnia? Byddant i gyd yn treulio fel dilledyn a ysir gan wyfyn.
Eseia 50:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd yr Arglwydd DDUW a’m cymorth; am hynny ni’m cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na’m cywilyddir. Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf. Wele, yr Arglwydd DDUW a’m cynorthwya; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a’u hysa hwynt.