Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 48:16 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 48:16 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dewch ata i yma i glywed hyn: ‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed; a phan mae’n digwydd dw i yna.’” Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD, wedi fy anfon i gyda’i ysbryd.

Eseia 48:16 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Dewch ataf, clywch hyn: O'r dechrau ni leferais yn ddirgel; o'r amser y digwyddodd, yr oeddwn i yno.” Ac yn awr ysbryd yr Arglwydd DDUW a'm hanfonodd i.

Eseia 48:16 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Nesewch ataf, gwrandewch hyn; ni leferais o’r cyntaf yn ddirgel; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno: ac yn awr yr ARGLWYDD DDUW a’i Ysbryd a’m hanfonodd.