Eseia 43:11-28
Eseia 43:11-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fi, ie fi ydy’r unig ARGLWYDD, a does neb ond fi yn gallu achub. Fi wnaeth ddweud ymlaen llaw, fi wnaeth achub, fi wnaeth ei gyhoeddi, dim rhyw dduw dieithr – a dych chi’n dystion o’r peth.” –meddai’r ARGLWYDD. “Fi ydy’r unig Dduw, Fi ydy e o’r dechrau cyntaf! Does neb yn gallu cipio rhywun oddi arna i. Pan dw i’n gwneud rhywbeth, does neb yn gallu ei ddadwneud.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy’n dy ryddhau, Un Sanctaidd Israel: “Dw i’n mynd i’w anfon e i Babilon er dy fwyn di. Bydda i’n bwrw ei barrau haearn i lawr, a throi bloeddio llawen y Babiloniaid yn alar. Fi ydy’ch Un Sanctaidd chi, yr ARGLWYDD, eich Brenin chi, yr un greodd Israel.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un agorodd ffordd drwy’r môr a llwybr drwy’r dyfroedd mawr, yr un ddinistriodd gerbydau a cheffylau, a’r fyddin ddewr i gyd (Maen nhw’n gorwedd gyda’i gilydd, a fyddan nhw ddim yn codi. Cawson nhw eu diffodd, fel diffodd cannwyll): “Peidiwch hel atgofion am y gorffennol, a dim ond meddwl am beth ddigwyddodd o’r blaen! Edrychwch, dw i’n gwneud rhywbeth newydd! Mae ar fin digwydd! Ydych chi ddim yn ei weld? Dw i’n mynd i agor ffordd drwy’r anialwch, a rhoi afonydd yn y tir diffaith. Bydd anifeiliaid gwyllt yn diolch i mi, y siacaliaid a’r estrys, am fy mod wedi rhoi dŵr yn yr anialwch, ac afonydd mewn tir diffaith, i roi diod i’r bobl dw i wedi’u dewis – y bobl wnes i eu llunio i mi fy hun, iddyn nhw fy moli i.” “Ond ti ddim wedi galw arna i, Jacob; rwyt ti wedi blino arna i, Israel. Ti ddim wedi dod â dafad yn offrwm i’w losgi i mi, nac wedi fy anrhydeddu gydag aberthau. Dw i ddim wedi pwyso arnat ti am offrwm o rawn, na dy boeni di am yr arogldarth o thus. Ti ddim wedi prynu sbeisiau pêr i mi na’m llenwi gyda braster dy aberthau. Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhoi baich dy bechodau arna i, a’m blino gyda dy ddrygioni. Fi, ie, fi – er fy mwyn fy hun – ydy’r un sy’n dileu dy wrthryfel di, ac yn anghofio am dy bechodau di. Atgoffa fi. Gad i ni drafod gyda’n gilydd. Gad i mi glywed dy ochr di o’r stori; ceisia di brofi dy fod yn ddieuog! Pechodd dy dad cyntaf yn fy erbyn i, wedyn cododd dy arweinwyr yn fy erbyn i. Felly dyma fi’n halogi arweinwyr y cysegr, a gadael i Jacob gael ei alltudio ac i Israel fod yn destun sbort.”
Eseia 43:11-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Myfi, myfi yw'r ARGLWYDD; nid oes waredydd ond myfi. Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi, pan nad oedd duw dieithr yn eich plith; ac yr ydych chwi'n dystion i mi,” medd yr ARGLWYDD, “mai myfi yw Duw. O'r dydd hwn, myfi yw Duw; ni all neb waredu o'm llaw. Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud.” Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd, Sanct Israel: “Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon, ac yn dryllio'r barrau i gyd, a throi cân y Caldeaid yn wylofain. Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct; creawdwr Israel yw eich brenin.” Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, a agorodd ffordd yn y môr a llwybr yn y dyfroedd enbyd; a ddug allan gerbyd a march, byddin a dewrion, a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi, yn darfod ac yn diffodd fel llin: “Peidiwch â meddwl am y pethau gynt, peidiwch ag aros gyda'r hen hanes. Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd; y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod? Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu, y bleiddiaid a'r estrys, am imi roi dŵr yn yr anialwch ac afonydd yn y diffeithwch, er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig, sef y bobl a luniais i mi fy hun, iddynt fynegi fy nghlod. “Jacob, ni elwaist arnaf fi, ond blinaist arnaf, Israel. Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm, na'm hanrhydeddu â'th ebyrth; ni roddais faich bwydoffrwm arnat, na'th flino am arogldarth. Ni phrynaist i mi galamus ag arian, na'm llenwi â'th ebyrth breision; ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf, blinaist fi â'th gamweddau. “Myfi, myfi yw Duw, sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun, heb alw i gof dy bechodau. Cyhudda fi, dadleuwn â'n gilydd; gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad. Pechodd dy dad cyntaf, a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn, a halogodd dy dywysogion fy nghysegr; felly rhoddais Jacob i'w ddinistrio, ac Israel yn waradwydd.”
Eseia 43:11-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Myfi, myfi yw yr ARGLWYDD; ac nid oes geidwad ond myfi. Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a ddangosais, pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg: am hynny chwi ydych fy nhystion, medd yr ARGLWYDD, mai myfi sydd DDUW. Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid oes a wared o’m llaw: gwnaf, a phwy a’i lluddia? Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd chwi, Sanct Israel: Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid, a’r Caldeaid, sydd â’u bloedd mewn llongau. Myfi yr ARGLWYDD yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin chwi. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion; Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a’r march, y llu a’r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant. Na chofiwch y pethau o’r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt. Wele fi yn gwneuthur peth newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a’m gogoneddant; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch, a’r afonydd yn y diffeithwch, i roddi diod i’m pobl, fy newisedig. Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant. Eithr ni elwaist arnaf, Jacob; ond blinaist arnaf, Israel. Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth, ac ni’m hanrhydeddaist â’th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni’th flinais ag arogl-darth. Ni phrynaist i mi galamus ag arian, ac ni’m llenwaist â braster dy ebyrth: eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu â’th bechodau, blinaist fi â’th anwireddau. Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau. Dwg ar gof i mi, cydymddadleuwn: adrodd di, fel y’th gyfiawnhaer. Dy dad cyntaf a bechodd, a’th athrawon a wnaethant gamwedd i’m herbyn. Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd-beth, ac Israel yn waradwydd.