Eseia 41:17-20
Eseia 41:17-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond am y bobl dlawd ac anghenus sy’n chwilio am ddŵr ac yn methu cael dim, ac sydd bron tagu gan syched, bydda i, yr ARGLWYDD, yn eu hateb nhw; fydda i, Duw Israel, ddim yn eu gadael nhw. Bydda i’n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial, ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd. Bydda i’n troi’r anialwch yn byllau dŵr, a’r tir sych yn ffynhonnau. Bydda i’n plannu coed cedrwydd yno, coed acasia, myrtwydd, ac olewydd; bydda i’n gosod coed cypres, coed llwyfen a choed pinwydd hefyd – er mwyn i bobl weld a gwybod, ystyried a sylweddoli mai’r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn, ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd.
Eseia 41:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddŵr, heb ei gael, a'u tafodau'n gras gan syched, byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn eu hateb; ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael. Agoraf afonydd ar ben y moelydd, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd; gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd, a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd. Plannaf yn yr anialwch gedrwydd, acasia, myrtwydd ac olewydd; gosodaf ynghyd yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd a phren bocs. Felly cânt weld a gwybod, ystyried ac amgyffred mai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn, ac mai Sanct Israel a'i creodd.”
Eseia 41:17-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan geisio y trueiniaid a’r tlodion ddwfr, ac nis cânt, pan ballo eu tafod o syched, myfi yr ARGLWYDD a’u gwrandawaf hwynt, myfi DUW Israel nis gadawaf hwynt. Agoraf afonydd ar leoedd uchel, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd: gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr, a’r crastir yn ffrydiau dyfroedd. Gosodaf yn yr anialwch y cedrwydd, sita, myrtwydd, ac olewydd; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd, a’r pren bocs ynghyd; Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallont ynghyd, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn, a Sanct Israel a’i creodd.