Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 41:1-29

Eseia 41:1-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Byddwch dawel a gwrando, ynysoedd; dw i am i’r bobloedd gael nerth newydd. Boed iddyn nhw nesáu i ddweud eu dweud. Gadewch i ni ddod at ein gilydd yn y llys barn. Pwy sydd wedi codi’r un o’r dwyrain? Pwy mae Cyfiawnder yn ei alw i’w ddilyn? Mae’n rhoi gwledydd iddo eu concro, ac i fwrw eu brenhinoedd i lawr. Mae ei gleddyf yn eu gwneud fel llwch, a’i fwa yn eu gyrru ar chwâl fel us. Mae’n mynd ar eu holau, ac yn pasio heibio’n ddianaf; dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr! Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd? Pwy alwodd y cenedlaethau o’r dechrau? – Fi, yr ARGLWYDD, oedd yno ar y dechrau a bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e! Mae’r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw’n ofni; mae pob cwr o’r ddaear yn crynu. Dyma nhw’n dod, maen nhw’n agos! Maen nhw’n helpu ei gilydd, ac mae un yn annog y llall, “Bydd yn ddewr!” Mae’r saer coed yn annog y gof aur, a’r un sy’n bwrw gyda’r morthwyl yn annog yr un sy’n taro’r einion. Mae’n canmol y gwaith sodro, “Mae’n dda!” ac yna’n ei hoelio’n saff, a dweud, “Fydd hwnna ddim yn symud!” Ond Israel, ti ydy fy ngwas i, Jacob, ti dw i wedi’i ddewis – disgynyddion Abraham, fy ffrind i. Des i â ti yma o bell, a’th alw o ben draw’r byd, a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.” Dw i wedi dy ddewis di! Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti! Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn – fi ydy dy Dduw di! Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di, dw i’n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde. Bydd pawb sy’n codi yn dy erbyn di yn cael eu cywilyddio a’u drysu. Bydd y rhai sy’n ymladd yn dy erbyn di yn diflannu ac yn marw. Byddi’n edrych am y rhai sy’n ymosod arnat ti ac yn methu dod o hyd iddyn nhw. Bydd y rhai sy’n rhyfela yn dy erbyn di yn diflannu ac yn peidio â bod. Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.” Paid bod ag ofn, y pryf Jacob, y lindys bach Israel – Bydda i’n dy helpu di! –meddai’r ARGLWYDD. Fi sy’n dy ryddhau di, sef Un Sanctaidd Israel. Bydda i’n dy wneud di yn sled ddyrnu – un newydd, hefo llawer iawn o ddannedd. Byddi’n dyrnu mynyddoedd a’u malu ac yn gwneud bryniau fel us. Byddi’n eu nithio nhw, a bydd gwynt stormus yn eu chwythu i ffwrdd. Bydd corwynt yn eu gyrru ar chwâl. Ond byddi di’n llawenhau yn yr ARGLWYDD, Ac yn canu mawl i Un Sanctaidd Israel. Ond am y bobl dlawd ac anghenus sy’n chwilio am ddŵr ac yn methu cael dim, ac sydd bron tagu gan syched, bydda i, yr ARGLWYDD, yn eu hateb nhw; fydda i, Duw Israel, ddim yn eu gadael nhw. Bydda i’n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial, ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd. Bydda i’n troi’r anialwch yn byllau dŵr, a’r tir sych yn ffynhonnau. Bydda i’n plannu coed cedrwydd yno, coed acasia, myrtwydd, ac olewydd; bydda i’n gosod coed cypres, coed llwyfen a choed pinwydd hefyd – er mwyn i bobl weld a gwybod, ystyried a sylweddoli mai’r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn, ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd. ARGLWYDD “Cyflwynwch eich achos,” meddai’r ARGLWYDD. “Sut ydych chi am bledio?” meddai Brenin Jacob. “Dewch â’ch duwiau yma i ddweud wrthon ni beth sy’n mynd i ddigwydd. Beth am ddweud wrthon ni beth broffwydon nhw yn y gorffennol – i ni allu penderfynu wrth weld y canlyniadau, neu ddweud beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol? Dwedwch wrthon ni beth sydd i ddod, er mwyn i ni gael gwybod eich bod chi’n dduwiau! Gwnewch rywbeth – da neu ddrwg – fydd yn gwneud i ni ryfeddu! Ond y gwir ydy, dych chi ddim yn bod; allwch chi wneud dim byd o gwbl! Mae rhywun sy’n dewis eich addoli chi yn ffiaidd! Fi wnaeth godi’r un o’r gogledd, ac mae wedi dod: yr un o’r dwyrain sy’n galw ar fy enw i. Mae wedi sathru arweinwyr fel sathru mwd neu fel mae crochenydd yn sathru clai. Pwy arall ddwedodd am hyn wrthon ni o’r dechrau? Pwy wnaeth ddweud am y peth ymlaen llaw, i ni allu dweud, ‘Roedd e’n iawn!’? Wnaeth neb sôn am y peth – ddwedodd neb ddim. Na, does neb wedi’ch clywed chi’n dweud gair! Fi wnaeth ddweud gyntaf wrth Seion: ‘Edrychwch! Maen nhw’n dod!’ Fi wnaeth anfon negesydd gyda newyddion da i Jerwsalem! Dw i’n edrych, a does yr un o’r rhain yn gallu rhoi cyngor nac ateb cwestiwn gen i. Y gwir ydy, eu bod nhw’n afreal – dŷn nhw’n gallu gwneud dim byd o gwbl! Mae eu delwau metel mor ddisylwedd ag anadl!

Eseia 41:1-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Rhowch sylw astud i mi, chwi ynysoedd, bydded i'r bobl nesáu; bydded iddynt nesáu a llefaru; down ynghyd i farn. “Pwy sy'n codi un o'r dwyrain, a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam? Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen, ac yn darostwng brenhinoedd. Y mae'n eu gwneud fel llwch â'i gleddyf, fel us yn chwyrlïo â'i fwa. Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogel ar hyd llwybr na throediodd o'r blaen. Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn, a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad? Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau, a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd.” Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni; daeth cryndod ar eithafion byd; daethant, a nesáu. Y mae pawb yn helpu ei gilydd, a'r naill yn dweud wrth y llall, “Ymgryfha.” Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych, a'r un sy'n llyfnhau â'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro ar yr eingion; y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn, ac yn sicrhau'r ddelw â hoelion rhag iddi symud. “Ti, Israel, yw fy ngwas; ti, Jacob, a ddewisais, had Abraham, f'anwylyd. Dygais di o bellteroedd byd, a'th alw o'i eithafion, a dweud wrthyt, ‘Fy ngwas wyt ti; rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.’ Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol. Yn awr cywilyddir a gwaradwyddir pob un sy'n digio wrthyt; bydd pob un sy'n ymrafael â thi yn mynd yn ddim ac yn diflannu. Byddi'n chwilio am y rhai sy'n ymosod arnat, ond heb eu cael; bydd pob un sy'n rhyfela yn dy erbyn yn mynd yn ddim, ac yn llai na dim. Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n gafael yn dy law dde, ac yn dweud wrthyt, ‘Paid ag ofni, yr wyf fi'n dy gynorthwyo.’ “Paid ag ofni, ti'r pryfyn Jacob, na thithau'r lleuen Israel; byddaf fi'n dy gynorthwyo,” medd yr ARGLWYDD, Sanct Israel, dy Waredydd. “Yn awr, fe'th wnaf yn fen ddyrnu— un newydd, ddanheddog a miniog; byddi'n dyrnu'r mynyddoedd a'u malu, ac yn gwneud y bryniau fel us. Byddi'n eu nithio, a'r gwynt yn eu chwythu i ffwrdd, a'r dymestl yn eu gwasgaru. Ond byddi di'n llawenychu yn yr ARGLWYDD ac yn ymhyfrydu yn Sanct Israel. “Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddŵr, heb ei gael, a'u tafodau'n gras gan syched, byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn eu hateb; ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael. Agoraf afonydd ar ben y moelydd, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd; gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd, a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd. Plannaf yn yr anialwch gedrwydd, acasia, myrtwydd ac olewydd; gosodaf ynghyd yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd a phren bocs. Felly cânt weld a gwybod, ystyried ac amgyffred mai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn, ac mai Sanct Israel a'i creodd.” “Gosodwch eich achos gerbron,” medd yr ARGLWYDD. “Cyflwynwch eich dadleuon,” medd brenin Jacob. “Bydded iddynt ddod a hysbysu i ni beth sydd i ddigwydd. Beth oedd y pethau cyntaf? Dywedwch, er mwyn inni eu hystyried, a gwybod eu canlyniadau; neu dywedwch wrthym y pethau sydd i ddod. Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, inni gael gwybod mai duwiau ydych; gwnewch rywbeth, da neu ddrwg, er mwyn i ni gael braw ac ofni trwom. Yn wir, nid ydych chwi'n ddim, ac nid yw'ch gwaith ond diddim. Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis. “Codais un o'r gogledd, ac fe ddaeth, un o'r dwyrain, ac fe eilw ar f'enw; y mae'n sathru rhaglawiaid fel pridd, ac fel crochenydd yn sathru clai. Pwy a fynegodd hyn o'r dechreuad, inni gael gwybod, neu ei ddweud ymlaen llaw, inni gael ei ategu? Nid oes neb wedi dweud na mynegi dim, ac ni chlywodd neb eich ymadrodd. Gosodaf un i lefaru'n gyntaf wrth Seion, ac i gyhoeddi newyddion da i Jerwsalem. Pan edrychaf, nid oes neb yno; nid oes cynghorwr yn eu plith a all ateb pan ofynnaf. Yn wir, nid ydynt i gyd ond dim; llai na dim yw eu gwaith, gwynt a gwagedd yw eu delwau.”

Eseia 41:1-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Distewch, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cyd-nesawn i farn. Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, a’i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef. Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe â’i draed. Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad? Myfi yr ARGLWYDD y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda’r diwethaf. Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasant; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant. Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha. Felly y saer a gysurodd yr eurych, a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i’w asio; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir. Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd. Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni’th wrthodais. Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder. Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir. Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim. Canys myfi yr ARGLWYDD dy DDUW a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a’th gynorthwyaf. Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a’th gynorthwyaf, medd yr ARGLWYDD, a’th Waredydd, Sanct Israel. Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg. Nithi hwynt, a’r gwynt a’u dwg ymaith, a’r corwynt a’u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr ARGLWYDD, yn Sanct Israel y gorfoleddi. Pan geisio y trueiniaid a’r tlodion ddwfr, ac nis cânt, pan ballo eu tafod o syched, myfi yr ARGLWYDD a’u gwrandawaf hwynt, myfi DUW Israel nis gadawaf hwynt. Agoraf afonydd ar leoedd uchel, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd: gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr, a’r crastir yn ffrydiau dyfroedd. Gosodaf yn yr anialwch y cedrwydd, sita, myrtwydd, ac olewydd; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd, a’r pren bocs ynghyd; Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallont ynghyd, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn, a Sanct Israel a’i creodd. Deuwch yn nes â’ch cwyn, medd yr ARGLWYDD; dygwch eich rhesymau cadarnaf, medd brenin Jacob. Dygant hwynt allan, a mynegant i ni y pethau a ddigwyddant: mynegwch y pethau gynt, beth ydynt, fel yr ystyriom, ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu traethwch i ni y pethau a ddaw. Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, fel y gwypom mai duwiau ydych chwi; gwnewch hefyd dda neu ddrwg, fel y synno arnom, ac y gwelom ynghyd. Wele, peth heb ddim ydych chwi, a’ch gwaith sydd ddiddim: ffiaidd yw y gŵr a’ch dewiso chwi. Cyfodais un o’r gogledd, ac efe a ddaw; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd. Pwy a fynegodd o’r dechreuad, fel y gwybyddom? ac ymlaen llaw, fel y dywedom, Cyfiawn yw? nid oes a fynega, nid oes a draetha chwaith, ac nid oes a glyw eich ymadroddion. Y cyntaf a ddywed wrth Seion, Wele, wele hwynt; rhoddaf hefyd efengylwr i Jerwsalem. Canys edrychais, ac nid oedd neb, ie, yn eu plith, ac nid oedd gynghorwr, pan ofynnais iddynt, a fedrai ateb gair. Wele, hwynt oll ydynt wagedd, a’u gweithredoedd yn ddiddim: gwynt a gwagedd yw eu tawdd-ddelwau.