Eseia 4:1-2
Eseia 4:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bryd hynny, bydd saith o ferched yn gafael mewn un dyn, ac yn dweud, “Gad i ni dy briodi di – Gwnawn fwyta ein bwyd ein hunain, a gwisgo’n dillad ein hunain. Ond cymer ein cywilydd ni i ffwrdd!” ARGLWYDD Bryd hynny, bydd blaguryn yr ARGLWYDD yn rhoi harddwch ac ysblander, a bydd ffrwyth y tir yn cynnig urddas a mawredd i’r ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.
Eseia 4:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dydd hwnnw, bydd saith o fenywod yn ymaflyd mewn un gŵr, a dweud, “Bwytawn ein bara ein hunain, a gwisgo ein dillad ein hunain; yn unig galwer ni wrth dy enw di, a symud ymaith ein gwaradwydd.” ARGLWYDD Yn y dydd hwnnw, bydd blaguryn yr ARGLWYDD yn brydferthwch ac yn ogoniant; a bydd ffrwyth y tir yn falchder ac yn brydferthwch i'r rhai dihangol yn Israel.
Eseia 4:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y dydd hwnnw saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr, gan ddywedyd, Ein bara ein hun a fwytawn, a’n dillad ein hun a wisgwn: yn unig galwer dy enw di arnom ni; cymer ymaith ein gwarth ni. Y pryd hwnnw y bydd Blaguryn yr ARGLWYDD yn brydferthwch ac yn ogoniant; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddianghasant o Israel.