Eseia 38:18-20
Eseia 38:18-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
‘Dydy’r rhai sydd yn Annwn ddim yn diolch i ti, a dydy’r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di. Dydy’r rhai sydd wedi disgyn i’r pwll ddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di. Y rhai byw, dim ond y rhai byw sy’n gallu diolch i ti fel dw i’n gwneud heddiw. Mae tad yn dweud wrth ei blant am dy ffyddlondeb di: mae’r ARGLWYDD wedi’n hachub ni! Gadewch i ni ganu offerynnau cerdd yn nheml yr ARGLWYDD weddill ein bywydau!’”
Eseia 38:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canys ni fydd y bedd yn diolch i ti, nac angau yn dy glodfori; ni all y rhai sydd wedi disgyn i'r pwll obeithio am dy ffyddlondeb. Ond y byw, y byw yn unig fydd yn diolch i ti, fel y gwnaf finnau heddiw; gwna tad i'w blant wybod am dy ffyddlondeb. Yr ARGLWYDD a'm gwared i; am hynny canwn â'n hofferynnau llinynnol holl ddyddiau ein bywyd yn nhŷ'r ARGLWYDD.
Eseia 38:18-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y bedd ni’th fawl di, angau ni’th glodfora: y rhai sydd yn disgyn i’r pwll ni obeithiant am dy wirionedd. Y byw, y byw, efe a’th fawl di, fel yr wyf fi heddiw: y tad a hysbysa i’r plant dy wirionedd. Yr ARGLWYDD sydd i’m cadw: am hynny y canwn fy nghaniadau holl ddyddiau ein heinioes yn nhŷ yr ARGLWYDD.