Eseia 30:15-16
Eseia 30:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud: “Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub; wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.” Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny. “Na,” meddech chi. “Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” – a dyna wnewch chi. “Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” – ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach!
Eseia 30:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel: “Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig, wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn. Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud, ‘Nid felly, fe ffown ni ar feirch.’ Felly bydd yn rhaid i chwi ffoi. ‘Fe farchogwn ni feirch cyflym,’ meddwch. Felly bydd eich erlidwyr yn gyflym.
Eseia 30:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech. Eithr dywedasoch, Nid felly; canys ni a ffown ar feirch; am hynny y ffowch: a marchogwn ar feirch buain; am hynny y bydd buain y rhai a’ch erlidio.