Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 23:4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 23:4 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Cywilydd arnat ti, Sidon, achos mae’r môr – y gaer ddiogel honno – wedi dweud, “Fi ydy’r un sydd heb ddiodde poenau wrth gael plant. Dw i heb fagu bechgyn na merched ifanc!”

Eseia 23:4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Cywilydd arnat, Sidon, canys llefarodd y môr, caer y môr, a dweud, “Nid wyf mewn gwewyr nac yn esgor, nac yn magu llanciau nac yn meithrin morynion.”

Eseia 23:4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Cywilyddia, Sidon; canys y môr, ie, cryfder y môr, a lefarodd, gan ddywedyd, Nid ymddygais, ac nid esgorais, ni fegais wŷr ieuainc chwaith, ac ni feithrinais forynion.