Eseia 18:1-5
Eseia 18:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwae wlad yr adenydd chwim wrth afonydd dwyrain Affrica! Mae’n anfon negeswyr dros y môr, mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr. Ewch, negeswyr cyflym, at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn – pobl sy’n cael eu hofni ym mhobman; cenedl gref sy’n hoffi ymladd, sydd â’i thir wedi’i rannu gan afonydd. “Gwrandwch, bawb drwy’r byd i gyd, pawb sy’n byw ar y ddaear: byddwch yn ei weld! – fel baner ar ben y bryniau; byddwch yn ei glywed! – fel sŵn y corn hwrdd yn cael ei chwythu!” Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i: “Dw i’n mynd i aros yn llonydd ac edrych o’m lle – fel tes yr haul yn tywynnu, neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.” Adeg y cynhaeaf grawn, pan mae’r blagur wedi mynd, a’r grawnwin yn dechrau aeddfedu, bydd yn torri’r brigau gyda chyllell, ac yn tocio’r canghennau sy’n lledu.
Eseia 18:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwae wlad yr adenydd chwim, sydd tu draw i afonydd Ethiopia, ac yn anfon cenhadau dros y môr mewn cychod o bapurfrwyn ar wyneb y dyfroedd. Ewch, chwi negeswyr cyflym, at genedl sy'n dal ac yn llyfn, at bobl a ofnir ymhell ac agos, cenedl gref sy'n mathru eraill, a'i thir wedi ei rannu gan afonydd. Chwi, holl drigolion byd a phobl y ddaear, edrychwch pan godir baner ar y mynyddoedd, gwrandewch pan gân yr utgorn. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: “Gwyliaf yn llonydd o'm trigfan, yr un fath â thes yr haul a chwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.” Canys cyn y cynhaeaf, pan dderfydd y blodau, a'r tusw blodau yn troi'n rawnwin aeddfed, torrir ymaith y brigau â chyllell finiog, a thynnir i ffwrdd y cangau sydd ar led.
Eseia 18:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwae y tir sydd yn cysgodi ag adenydd, yr hwn sydd tu hwnt i afonydd Ethiopia: Yr hwn a hebrwng genhadau hyd y môr, ac ar hyd wyneb y dyfroedd, mewn llestri brwyn, gan ddywedyd, Ewch, genhadon cyflym, at genhedlaeth wasgaredig ac ysbeiliedig, at bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenhedlaeth wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir. Holl drigolion y byd, a phreswylwyr y ddaear, gwelwch pan gyfodo efe faner ar y mynyddoedd, a chlywch pan utgano ag utgorn. Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Byddaf lonydd, a mi a ystyriaf yn fy annedd, megis gwres eglur ar lysiau, fel niwl gwlith yng ngwres cynhaeaf. Canys o flaen cynhaeaf, pan fyddo y blodeuyn yn berffaith, a’r grawnwin surion yn aeddfedu yn y blodeuyn: efe a dyr y brig â chrymanau, ac a dynn ymaith ac a dyr y canghennau.