Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 16:1-14

Eseia 16:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Anfon oen oddi wrth lywodraethwr y wlad, o Sela yn yr anialwch i Fynydd Seion hardd: “Mae merched Moab wrth rydau Arnon, fel adar wedi’u tarfu a’u gyrru o’r nyth. Rhowch gyngor! Gwnewch benderfyniad! Rhowch gysgod i ni rhag y gelyn, fel oerni’r nos rhwng gwres dau ddydd. Cuddiwch ein ffoaduriaid! Peidiwch bradychu’r rhai sy’n ffoi. Rhowch loches i ffoaduriaid Moab; cuddiwch nhw rhag y gelyn sy’n dinistrio.” Pan fydd yr un creulon wedi diflannu a’r ysbeilio wedi dod i ben, a’r gormeswyr wedi diflannu o’r tir, bydd brenin dibynadwy yn cael ei orseddu – un o deulu Dafydd. Bydd yn teyrnasu’n ffyddlon, bydd yn frwd dros gyfiawnder ac yn hybu tegwch. “Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab – mae ei phobl mor falch – yn snobyddlyd, yn brolio ac mor haerllug, ond mae ei brolio hi’n wag.” Felly, mae Moab yn udo; mae pawb yn Moab yn udo! Mae’r rhai a anafwyd yn griddfan am deisennau ffrwyth melys Cir-chareseth. Mae’r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbon a gwinllannoedd Sibma wedi gwywo. Mae’r rhai sy’n rheoli’r cenhedloedd wedi torri eu gwinwydd gorau. Roedden nhw’n cyrraedd hyd at Iaser, ac yn ymestyn i’r anialwch; roedd eu brigau wedi ymledu ac yn cyrraedd at y môr. Felly dw i’n wylo gyda Iaser dros winwydd Sibma. Gwlychaf di â’m dagrau, Cheshbon ac Elealê, am fod y gweiddi llawen am ffrwythau aeddfed dy gynhaeaf wedi dod i ben. Mae’r miri a’r hwyl wedi’i ysgubo i ffwrdd o’r gerddi. Does dim canu na sŵn dathlu i’w glywed yn y gwinllannoedd. Does neb yn sathru’r grawnwin i’r cafnau – mae’r bwrlwm wedi tewi. Felly mae fy mol yn murmur dros Moab fel tannau telyn, a’r cwbl sydd yno i dros Cir-chareseth. Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol, ac yn gweddïo’n daer yn y cysegr, fydd dim byd yn tycio. Dyna’r neges roddodd yr ARGLWYDD i Moab o’r blaen. Ond mae’r ARGLWYDD yn dweud nawr: mewn tair blynedd union bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl – neb o bwys.

Eseia 16:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Anfonodd llywodraethwr y wlad ŵyn o Sela yn yr anialwch i fynydd merch Seion. Y mae merched Moab wrth rydau Arnon fel adar aflonydd wedi eu troi o'u nythod. “Dwg gyngor, gwna dy fwriad yn glir; bydded dy gysgod fel nos drosom, hyd yn oed ar ganol dydd; cuddia'r ffoaduriaid, paid â bradychu'r crwydriaid. Bydded i ffoaduriaid Moab aros gyda thi; bydd di yn lloches iddynt rhag y dinistrydd.” Pan ddaw diwedd ar drais, a pheidio o'r ysbeilio, a darfod o'r mathrwyr o'r tir, yna sefydlir gorsedd trwy deyrngarwch, ac arni fe eistedd un ffyddlon ym mhabell Dafydd, barnwr yn ceisio barn deg ac yn barod i fod yn gyfiawn. Clywsom am falchder Moab— mor falch ydoedd— ac am ei thraha, ei malais a'i haerllugrwydd, heb sail i'w hymffrost. Am hynny fe uda Moab; uded Moab i gyd. Fe riddfana mewn dryswch llwyr am deisennau grawnwin Cir-hareseth. Oherwydd pallodd erwau Hesbon a gwinwydd Sibma; drylliodd arglwyddi'r cenhedloedd ei grawnwin cochion; buont yn cyrraedd hyd at Jaser, ac yn ymestyn trwy'r anialwch. Yr oedd ei blagur yn gwthio allan, ac yn cyrraedd ar draws y môr. Am hynny wylaf dros winwydd Sibma fel yr wylais dros Jaser; dyfrhaf di â'm dagrau, Hesbon ac Eleale; canys ar dy ffrwythau haf ac ar dy gynhaeaf daeth gwaedd. Ysgubwyd ymaith y llawenydd a'r gorfoledd o'r dolydd; mwyach ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd, ni sathra'r sathrwr win yn y cafnau, a rhoddais daw ar weiddi'r cynaeafwyr. Am hynny fe alara f'ymysgaroedd fel tannau telyn dros Moab, a'm hymysgaroedd dros Cir-hareseth. Pan ddaw Moab i addoli, ni wna ond ei flino'i hun yn yr uchelfa; pan ddaw i'r cysegr i weddïo, ni thycia ddim. Dyna'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moab gynt. Yn awr fe ddywed yr ARGLWYDD, “Ymhen tair blynedd, yn ôl tymor gwas cyflog, bydd gogoniant Moab yn ddirmyg er cymaint ei rhifedi; bydd y rhai sy'n weddill yn ychydig ac yn ddibwys.”

Eseia 16:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Anfonwch oen i lywodraethwr y tir, o Sela i’r anialwch, i fynydd merch Seion. Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o’r nyth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon. Ymgynghora, gwna farn, gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd; cuddia y rhai gwasgaredig, na ddatguddia y crwydrad. Triged fy ngwasgaredigion gyda thi; Moab, bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd; canys diweddwyd y gorthrymydd, yr anrheithiwr a beidiodd, y mathrwyr a ddarfuant o’r tir. A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd; ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder. Clywsom am falchder Moab, (balch iawn yw,) am ei falchder, a’i draha, a’i ddicllonedd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau. Am hynny yr uda Moab am Moab, pob un a uda: am sylfeini Cir-hareseth y griddfenwch; yn ddiau hwy a drawyd. Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr. Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser, gwinwydden Sibma; dyfrhaf di, Hesbon, ac Eleale, â’m dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf, y syrthiodd bloedd. Y llawenydd hefyd a’r gorfoledd a ddarfu o’r dolydd: ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd; gwneuthum i’w bloedd gynhaeaf beidio. Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a’m perfedd am Cir-hares. A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan, yna y daw efe i’w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo. Dyma y gair a lefarodd yr ARGLWYDD am Moab, er yr amser hwnnw. Ond yn awr y llefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog, y dirmygir gogoniant Moab, a’r holl dyrfa fawr; a’r gweddill fydd ychydig bach a di-rym.