Eseia 14:9-16
Eseia 14:9-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae byd y meirw isod mewn cyffro, yn barod i dy groesawu di – bydd y meirw’n deffro, sef arweinwyr y byd, a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaear yn codi oddi ar eu gorseddau. Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di, ‘Felly, ti hyd yn oed – rwyt tithau’n wan fel ni! Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiau wedi eu tynnu i lawr i Annwn! Bydd y cynrhon yn wely oddi tanat a phryfed genwair yn flanced drosot ti! Y fath gwymp! Rwyt ti, seren ddisglair, mab y wawr, wedi syrthio o’r nefoedd! Ti wedi dy dorri i lawr i’r ddaear – ti oedd yn sathru’r holl wledydd! Roeddet ti’n meddwl i ti dy hun, “Dw i’n mynd i ddringo i’r nefoedd, a gosod fy ngorsedd yn uwch na sêr Duw. Dw i’n mynd i eistedd ar fynydd y gynulleidfa yn y gogledd pell. Dw i’n mynd i ddringo ar gefn y cymylau, a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.” O’r fath gwymp – rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw, i’r lle dyfnaf yn y Pwll! Mae pobl yn dy weld ac yn syllu arnat, ac yn pendroni: “Ai hwn ydy’r dyn wnaeth i’r ddaear grynu, a dychryn teyrnasoedd?
Eseia 14:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddi i'th dderbyn pan gyrhaeddi; bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod, pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear; gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd, sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd. Bydd pob un ohonynt yn ymateb, ac yn dy gyfarch fel hyn: “Aethost tithau'n wan fel ninnau; yr wyt yr un ffunud â ni.” Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol, yn sŵn miwsig dy nablau; oddi tanat fe daenir y llyngyr, a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid. O fel y syrthiaist o'r nefoedd, ti, seren ddydd, fab y wawr! Fe'th dorrwyd i'r llawr, ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd. Dywedaist ynot dy hun, “Dringaf fry i'r nefoedd, dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf; eisteddaf ar y mynydd cynnull ym mhellterau'r Gogledd. Dringaf yn uwch na'r cymylau; fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf.” Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd, i lawr i ddyfnderau'r pwll. Bydd y rhai a'th wêl yn synnu a phendroni drosot, a dweud, “Ai dyma'r un a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a ysgytiodd deyrnasoedd?
Eseia 14:9-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o’th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o’u gorseddfaoedd. Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni? Disgynnwyd dy falchder i’r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a’th doant. Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y’th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd! Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i’r nefoedd; oddi ar sêr DUW y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd; Dringaf yn uwch na’r cymylau; tebyg fyddaf i’r Goruchaf. Er hynny i uffern y’th ddisgynnir, i ystlysau y ffos. Y rhai a’th welant a edrychant arnat yn graff, ac a’th ystyriant, gan ddywedyd, Ai dyma y gŵr a wnaeth i’r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd?