Eseia 14:3-14
Eseia 14:3-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, a’r holl waith caled pan oeddet ti’n gaethwas, byddi’n adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon: “Ble mae’r gormeswr wedi diflannu? Mae ei falchder wedi dod i ben! Mae’r ARGLWYDD wedi torri ffon y rhai drwg, a gwialen y gormeswyr. Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloedd yn ddi-stop. Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredd a’u herlid yn ddi-baid. Bellach mae’r ddaear yn dawel a digyffro, ac mae’r bobl yn canu’n llawen. Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus, a’r coed cedrwydd yn Libanus yn canu: ‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr, dydy’r torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’ Mae byd y meirw isod mewn cyffro, yn barod i dy groesawu di – bydd y meirw’n deffro, sef arweinwyr y byd, a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaear yn codi oddi ar eu gorseddau. Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di, ‘Felly, ti hyd yn oed – rwyt tithau’n wan fel ni! Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiau wedi eu tynnu i lawr i Annwn! Bydd y cynrhon yn wely oddi tanat a phryfed genwair yn flanced drosot ti! Y fath gwymp! Rwyt ti, seren ddisglair, mab y wawr, wedi syrthio o’r nefoedd! Ti wedi dy dorri i lawr i’r ddaear – ti oedd yn sathru’r holl wledydd! Roeddet ti’n meddwl i ti dy hun, “Dw i’n mynd i ddringo i’r nefoedd, a gosod fy ngorsedd yn uwch na sêr Duw. Dw i’n mynd i eistedd ar fynydd y gynulleidfa yn y gogledd pell. Dw i’n mynd i ddringo ar gefn y cymylau, a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.”
Eseia 14:3-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi llonydd i ti oddi wrth dy boen a'th lafur a'r gaethwasiaeth greulon y buost ynddi, fe gei ddatgan y dychan hwn yn erbyn brenin Babilon: O fel y darfu'r gorthrymwr ac y peidiodd ei orffwylltra! Drylliodd yr ARGLWYDD ffon yr annuwiol a gwialen y llywiawdwyr, a fu'n taro'r bobloedd mewn dig, heb atal eu hergyd, ac yn sathru'r bobloedd mewn llid a'u herlid yn ddi-baid. Daeth llonyddwch i'r holl ddaear, a thawelwch; ac y maent yn gorfoleddu ar gân. Y mae hyd yn oed y ffynidwydd yn ymffrostio yn dy erbyn, a chedrwydd Lebanon hefyd, gan ddweud, “Er pan fwriwyd di ar dy orwedd ni chododd neb i'n torri ni i lawr.” Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddi i'th dderbyn pan gyrhaeddi; bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod, pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear; gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd, sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd. Bydd pob un ohonynt yn ymateb, ac yn dy gyfarch fel hyn: “Aethost tithau'n wan fel ninnau; yr wyt yr un ffunud â ni.” Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol, yn sŵn miwsig dy nablau; oddi tanat fe daenir y llyngyr, a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid. O fel y syrthiaist o'r nefoedd, ti, seren ddydd, fab y wawr! Fe'th dorrwyd i'r llawr, ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd. Dywedaist ynot dy hun, “Dringaf fry i'r nefoedd, dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf; eisteddaf ar y mynydd cynnull ym mhellterau'r Gogledd. Dringaf yn uwch na'r cymylau; fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf.”
Eseia 14:3-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bydd, yn y dydd y rhoddo yr ARGLWYDD lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid, ac oddi wrth dy ofn, ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo, I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd, Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr? ac y peidiodd y dref aur? Yr ARGLWYDD a ddrylliodd ffon yr anwiriaid, a theyrnwialen y llywiawdwyr. Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd â phla gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias. Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear; canasant o lawenydd. Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynnodd cymynydd i’n herbyn. Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o’th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o’u gorseddfaoedd. Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni? Disgynnwyd dy falchder i’r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a’th doant. Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y’th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd! Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i’r nefoedd; oddi ar sêr DUW y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd; Dringaf yn uwch na’r cymylau; tebyg fyddaf i’r Goruchaf.