Hosea 9:1-9
Hosea 9:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O Israel, stopia ddathlu a gweiddi’n llawen fel y paganiaid; ti wedi bod yn anffyddlon i dy Dduw. Ti’n hoffi derbyn cyflog putain wrth ‘addoli’ ar bob llawr dyrnu! Fydd dy gynhaeaf ŷd ddim digon i fwydo dy bobl, a bydd y grawnwin o’r gwinllannoedd yn dy siomi. Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr ARGLWYDD. Bydd Effraim yn mynd yn ôl i’r Aifft, ac yn bwyta bwyd aflan yn Asyria. Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i’r ARGLWYDD, nac offrymu aberthau iddo. Bydd yr aberthau’n aflan, fel bwyd pobl sy’n galaru; bydd pawb sy’n ei fwyta’n cael eu llygru. Bydd eu bwyd i’w boliau’n unig; fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr ARGLWYDD. Felly, beth wnewch chi ar Ddydd Gŵyl – sut fyddwch chi’n dathlu Gwyliau’r ARGLWYDD? Hyd yn oed os byddan nhw’n dianc o’r dinistr, bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw, a Memffis yn eu claddu nhw. Bydd chwyn yn chwennych eu trysorau a mieri’n meddiannu eu tai. Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd! Mae dydd y farn wedi dod! Mae’n bryd i Israel wybod! “Mae’r proffwyd yn hurt! Mae’r dyn ysbrydol yn wallgof!” Ti wedi pechu gymaint, ac mor llawn casineb! Mae’r proffwyd yn wyliwr dros Effraim ar ran Duw. Ond mae trapiau’n cael eu gosod ar ei lwybrau; a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw. Mae’r llygredd yn mynd o ddrwg i waeth, fel digwyddodd yn Gibea gynt. Bydd Duw yn delio gyda’u drygioni ac yn eu cosbi am eu pechodau.
Hosea 9:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid â llawenychu, Israel. Paid â gorfoleddu fel y bobloedd; canys puteiniaist a gadael dy Dduw, ceraist am dâl ar bob llawr dyrnu. Ni fydd llawr dyrnu a gwinwryf yn eu porthi hwy; bydd y gwin newydd yn eu siomi. Nid arhosant yn nhir yr ARGLWYDD; ond dychwel Effraim i'r Aifft, a bwytânt beth aflan yn Asyria. Ni thywalltant win yn offrwm i'r ARGLWYDD, ac ni fodlonir ef â'u haberthau; byddant iddynt fel bara galarwyr, sy'n halogi pawb sy'n ei fwyta. Canys at eu hangen eu hunain y bydd eu bara, ac ni ddaw i dŷ'r ARGLWYDD. Beth a wnewch ar ddydd yr ŵyl sefydlog, ar ddydd uchel ŵyl yr ARGLWYDD? Canys wele, ffoant rhag dinistr; bydd yr Aifft yn eu casglu, a Memffis yn eu claddu; bydd danadl yn meddiannu eu trysorau arian, a drain fydd yn eu pebyll. Daeth dyddiau cosbi, dyddiau i dalu'r pwyth, a darostyngir Israel. “Ffŵl yw'r proffwyd, gwallgof yw gŵr yr ysbryd.” O achos dy ddrygioni mawr bydd dy elyniaeth yn fawr. Y mae'r proffwyd yn wyliwr i Effraim, pobl fy Nuw, ond y mae magl heliwr ar ei holl ffyrdd a gelyniaeth yn nhŷ ei Dduw. Syrthiasant yn ddwfn i lygredd, fel yn nyddiau Gibea. Fe gofia Duw eu drygioni a chosbi eu pechodau.
Hosea 9:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dy DDUW, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd. Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt, a’r gwin newydd a’i twylla hi. Ni thrigant yng ngwlad yr ARGLWYDD; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan. Nid offrymant win i’r ARGLWYDD, a’u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr ARGLWYDD. Beth a wnewch ar ddydd yr uchel ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr ARGLWYDD? Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll. Dyddiau i ymweled a ddaethant, dyddiau talu’r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a’r cas mawr. Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m DUW; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei DDUW. Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â’u pechod.