Hosea 6:1-7
Hosea 6:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dewch! Gadewch i ni droi’n ôl at yr ARGLWYDD. Fe sydd wedi’n rhwygo’n ddarnau, ond bydd e’n iacháu! Fe sydd wedi’n hanafu ni, ond bydd e’n gwella’r briwiau! Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig; bydd wedi’n codi ni’n ôl yn fyw mewn dim o dro. Cawn fyw yn ei gwmni, a’i nabod yn iawn. Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr ARGLWYDD. Bydd yn dod allan i’n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri. Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio’r tir.” O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim? Beth wna i gyda chi, bobl Jwda? Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore, neu’r gwlith sy’n diflannu’n gynnar. Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i’ch taro. Dw i’n mynd i’ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn. Mae’r farn yn siŵr o ddod, fel golau’r wawr. Ffyddlondeb sy’n fy mhlesio, nid aberthau! Nabod Duw, nid dim ond offrwm i’w losgi. Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda! Maen nhw wedi fy mradychu i!
Hosea 6:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Dewch, dychwelwn drachefn at yr ARGLWYDD; fe'n drylliodd, ac fe'n hiachâ; fe'n trawodd, ac fe'n meddyginiaetha. Fe'n hadfywia ar ôl deuddydd, a'n codi ar y trydydd dydd, inni fyw yn ei ŵydd. Gadewch inni adnabod, ymdrechu i adnabod, yr ARGLWYDD; y mae ei ddyfodiad mor sicr â'r wawr; daw fel glaw atom, fel glaw gwanwyn sy'n dyfrhau'r ddaear.” “Beth a wnaf i ti, Effraim? Beth a wnaf i ti, Jwda? Y mae dy ffyddlondeb fel tarth y bore, fel gwlith sy'n codi'n gynnar. Am hynny, fe'u drylliais trwy'r proffwydi, fe'u lleddais â geiriau fy ngenau, a daw fy marn allan fel goleuni. Oherwydd ffyddlondeb a geisiaf, ac nid aberth, gwybodaeth o Dduw yn hytrach na phoethoffrymau. Yn Adma torasant gyfamod, yno buont dwyllodrus tuag ataf.
Hosea 6:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Deuwch, a dychwelwn at yr ARGLWYDD: canys efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; efe a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni. Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef. Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr ARGLWYDD: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear. Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol. Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan. Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o DDUW, yn fwy na phoethoffrymau. A’r rhai hyn, fel dynion, a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i’m herbyn.